Mae ffigurau newydd dros y DU yn dangos bod nifer y bagiau siopa plastig sy’n cael eu rhoi i gwsmeriaid mewn archfarchnadoedd mawr yng Nghymru wedi gostwng 81% rhwng 2010 a 2012.
Mae’r Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, Alun Davies, wedi croesawu’r ffigurau gan sefydliad ailgylchu WRAP sydd hefyd yn dangos bod cynnydd wedi bod yn y defnydd o fagiau siopa plastig yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Wrth ymateb i’r ffigurau dywedodd Alun Davies AC: “Mae’r ffigurau hyn yn dyst i lwyddiant y tâl o 5c am fagiau siopa yng Nghymru a gyflwynwyd yn 2011.
“Mae’r ffigyrau yn cefnogi’r hyn roedden ni’n ei wybod eisoes, sef bod pobl Cymru wedi newid y ffordd maen nhw’n siopa yn y cyfnod hyd at gyflwyno’r tâl, ac ers ei weithredu.”
Mae canfyddiadau WRAP yn cael eu cefnogi ymhellach gan ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw a oedd yn edrych ar y defnydd ac ailddefnydd o fagiau siopa yng Nghymru a’r Alban.
Mae’r adroddiad yn nodi bod y defnydd o fagiau am oes a bagiau y gellir eu hailddefnyddio yn dod yn ail natur i bobl Cymru.
‘Datblygu arferion mwy cynaliadwy’
Mae’r astudiaeth hefyd yn dweud bod y llwyddiant yn bennaf mewn archfarchnadoedd ond yn cydnabod bod cynnydd yn cael ei wneud ar y stryd fawr ac mewn siopau bach annibynnol hefyd.
Mewn achosion lle mae siopwyr yn prynu bag, mae elw o’r tâl yn cael ei drosglwyddo i achosion da ac mae arolwg diweddar o 46 o fanwerthwyr a gyhoeddwyd ar y rhyngrwyd wedi dangos bod dros £4 miliwn wedi cael ei rhoi neu ei glustnodi ar gyfer achosion da o ganlyniad i gyflwyno’r tâl am fagiau.
Mae achosion da sydd wedi elwa yn cynnwys elusennau amgylcheddol fel Cadwch Gymru’n Daclus, elusennau plant Cymru ac elusennau canser.
Ychwanegodd Alun Davies: “Mae’r tâl wedi annog siopwyr i ddatblygu arferion llawer mwy cynaliadwy ac i symud i ffwrdd o’r arfer o dderbyn bagiau newydd diangen bob tro y maen nhw wrth y til.
“Mae’r ffigurau yn dangos bod codi tâl gorfodol am fagiau siopa wir yn gweithio a gyda Chymru hefyd yn arwain y blaen yn y DU gyda’i gyfraddau ailgylchu rydym yn parhau i adeiladu ar ein henw da fel gwlad sy’n cymryd camau i ddiogelu ein hadnoddau naturiol.”