Danny Alexander
Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal ymgynghoriad ar ddatganoli’r dreth stamp i Gymru.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cyhoeddi rhan gyntaf Adroddiad Silk, ac fe fydd yr ymgynghoriad yn cynnwys busnesau yn y sector adeiladu a’r farchnad dai.

Dywedodd Danny Alexander fod “achos cryf iawn dros ddatganoli materion ariannol ac economaidd i Lywodraeth Cymru”, ond ychwanegodd ei bod hi’n “briodol ein bod ni’n deal yn llawn yr effeithiau posib fel y gallwn ni sicrhau bod y penderfyniadau rydym yn eu gwneud yn iawn i Gymru ac i’r DU gyfan”.

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones ei bod hi’n “hanfodol i ni roi ystyriaeth lawn i’w holl oblygiadau”.

“Dylai pob ochr gymryd y cyfle hwn i fynegi barn yn yr ymgynghoriad byr hwn ar ganlyniadau posib datganoli’r dreth stamp.”

Eisoes, mae tri Chomisiwn – Silk, Holtham a Calman – wedi argymell datganoli’r dreth stamp i Gymru.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt: “Mae angen trethi fel y dreth stamp i gael eu datganoli fel y gallwn ni roi hwb i adeiladu tai, creu swyddi, cefnogi economi Cymru a pharhau i gyflwyno ein blaenoriaethau i Gymru.”

Ychwanegodd fod Cymru a’r DU ill dau ar eu hennill oherwydd y penderfyniad i gynnal yr ymgynghoriad.

Ymgynghoriad yn ‘tanseilio gwaith y Comisiwn’

Ond mae Plaid Cymru wedi mynegi eu siom oherwydd amseru’r cyhoeddiad.

Dywed llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards fod yr amseru’n “tanseilio gwaith y comisiwn drwy beri oedi wrth drosglwyddo pwerau ariannol hanfodol i Gymru”.

Dywedodd fod Cymru wedi aros misoedd i glywed a fyddan nhw’n cael rhagor o ddatganoli, ac y byddai ymgynghori â busnesau’n ychwanegu at yr oedi.

“Mae Plaid Cymru wedi mynnu ers tro mai trosglwyddo pwerau creu-swyddi o San Steffan i Gymru yw’r ffordd orau o sicrhau adferiad economaidd yng Nghymru.

“Byddai gweithredu argymhellion y Comisiwn Silk yn llawn yn mynd peth ffordd i gyflawni hyn ac felly mae’n siomedig iawn i dderbyn datganiad sy’n dangos dim cynnydd ystyrlon ar ôl aros 8 mis.

“Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi addo ers i’r adroddiad gael ei gyhoeddi y byddai Llywodraeth y DU yn ymateb yn llawn ym mis Medi.

“Mae’n sarhad ar bobl Cymru mai dim ond ymateb ysgrifenedig amwys sydd wedi ei gynnig a hynny ar noswyl egwyl Haf y Senedd.”

“Wrth edrych ar yr arferion gorau o drethiant datganoli o gwmpas y byd, mae trethi eiddo yn cael eu gweld fel un o’r trethi mwyaf priodol i ddatganoli.

“Mae pryder yr Ysgrifennydd Gwladol yn mynd yn groes i dystiolaeth fyd-eang.

“Mae’n bwysig nodi bod y Comisiwn Silk wedi ymgynghori’n eang wrth lunio’r argymhellion hyn – pam y mae Llywodraeth y DU yn ail-ddyfalu  gwaith gofalus y Comisiwn?”