Mae nifer y bobl sy’n ddi-waith yng Nghymru wedi cynyddu 1,000 i 122,000, sef 8.2% o’r boblogaeth.

Yng ngweddill y DU mae nifer y rhai sy’n hawlio budd-dal diweithdra wedi gostwng tra bod nifer y rhai sydd wedi bod yn ddi-waith am fwy na blwyddyn wedi cynyddu i’w lefel uchaf ers 17 o flynyddoedd.

Roedd gostyngiad o 57,000 yn nifer y di-waith yn y chwarter hyd at fis Mai, i 2.51 miliwn y nifer isaf ers yr hydref y llynedd. Ac mae nifer y rhai sy’n hawlio budd-dal diweithdra wedi gostwng 21.200 ym mis Mehefin i 1.48 miliwn, y gostyngiad mwyaf ers mwy na dwy flynedd.

Ond mae nifer y rhai sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir wedi cynyddu i’w lefel uchaf ers 1996, gyda 915,000 wedi bod yn ddi-waith am fwy na blwyddyn, cynnydd o 32,000.

Mae 72,000 yn llai o bobl yn ddi-waith o’i gymharu â blwyddyn yn ôl.

Ymhlith pobl ifainc roedd gostyngiad o 20,000 i 959,000 sy’n ddi-waith.

Dywedodd y gweinidog cyflogaeth Mark Hoban bod y ffigurau heddiw yn galonogol a bod y diwygiadau i fudd-daliadau yn annog mwy o bobl i weithio.

Ond dywedodd Paul Kenny, ysgrifennydd cyffredinol undeb y GMB polisïau economaidd y Llywodraeth Glymblaid wedi arwain at “wastraff o dalent”.

‘Arwyddion calonogol’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y ffigurau’n dangos bod Cymru wedi “perfformio’n well na gweddill y DU ar y cyfan ac yn dangos arwyddion calonogol.”

O fewn y 12 mis diwethaf mae cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi helpu i greu a diogelu 17,171 o swyddi ar draws Cymru, cynnydd o 20% ar y flwyddyn flaenorol, meddai’r llefarydd.

Ond ychwanegodd bod polisïau economaidd Llywodraeth y DU a newidiadau i fudd-daliadau yn peri risg pellach i’r economi, yn enwedig yng Nghymru.

Wrth ymateb i’r ffigurau diweddaraf dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones bod Cymru’n arwain y ffordd o ran cyflogaeth a bod cynnydd o 25,000 yn nifer y rhai sy’n cael eu cyflogi yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ond dywedodd nad oedd lle i laesu dwylo a’i fod wedi ei ymrwymo i hybu economi Cymru ymhellach.

‘Gwell defnydd o arian cyhoeddus’

Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones AC wedi galw am fuddsoddi mewn seilwaith a gwell defnydd o arian cyhoeddus Cymru er mwyn lleihau diweithdra.

“Mae Plaid Cymru wedi galw am ddeddfwriaeth i sicrhau fod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwario eu harian yng Nghymru ac yn creu swyddi newydd yn ein cymunedau.

“Medrwn greu hyd at 50,000 o swyddi petai ein harian cyhoeddus yn cael ei wario’n well yng Nghymru.

“Byddai modd creu swyddi eraill yng Nghymru trwy fuddsoddi mewn seilwaith fel codi tai cymdeithasol fforddiadwy, a buddsoddi mewn Metro De Cymru, a thrydaneiddio Lein Arfordir y Gogledd.

“Mae Plaid Cymru yn falch ein bod yn creu dros 5,600 o brentisiaethau yng Nghymru a swyddi o safon a gwerth uchel ym Mharc Gwyddoniaeth Menai, ond  er ei bod hi’n hirddydd haf y tu allan, mae llawer o waith eto i’w wneud gan Lywodraeth Cymru i adfer economi Cymru i’r hyn oed yn y dyddiau cyn y dirwasgiad.

“Dyw arafwch llywodraeth San Steffan yn rhoi i Lywodraeth Cymru’r pwerau creu swyddi y dylai gael yn ôl argymhelliad Comisiwn Silk ddim yn help, chwaith.”