Carwyn Jones
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi nodi blaenoriaethau deddfu Llywodraeth Cymru.

Fe gyhoeddodd neithiwr mai hyblygrwydd ariannol y Gwasanaeth Iechyd, digartrefedd, trais domestig a diwygio’r system gynllunio fydd yn cael y prif sylw yn ystod 2013-14.

Bu’n esbonio wrth y Cynulliad sut y mae ei Lywodraeth wedi defnyddio’r grym newydd a gafodd trwy refferendwm ar bwerau ychwanegol yn 2011 er mwyn cyflawni amcanion ei rhaglen bum mlynedd.

Ymhlith y ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei chyflwyno ers i’r Cynulliad dderbyn y grym ychwanegol mae system newydd o roi organau trwy ganiatâd tybiedig, gwella safon ysgolion, diwygio’r gwasanaethau cymdeithasol a chryfhau’r sector amaethyddol.

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, mae disgwyl i Fil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd gael ei gyflwyno er mwyn newid y drefn ariannol ar gyfer byrddau iechyd lleol o drefn un flwyddyn i drefn dair blynedd.

Mae disgwyl hefyd y bydd y Cynulliad yn cyflwyno Bil Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig.

Fe fydd Bil Diwygio Cynllunio yn newid y drefn o gyflwyno ceisiadau cynllunio yng Nghymru trwy bennu dyletswyddau newydd i’r Gweinidogion, awdurdodau lleol, datblygwyr a chymunedau.

Rhai o’r biliau eraill fydd yn cael eu cyflwyno yw’r Bil Tai, Bil Cenedlaethau’r Dyfodol, Bil Addysg Uwch a Bil Gweithlu’r Gwasanaeth Cyhoeddus.

32 bil fydd yn cael eu cyflwyno eleni.

‘Creu cyfleoedd i bawb’

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Yn 2011, pleidleisiodd pobl Cymru o blaid rhoi’r pŵer i’r Cynulliad Cenedlaethol basio cyfreithiau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru, er mwyn Cymru, gan y rheini ohonom sy’n cael ein hethol ganddyn nhw.

“Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o gyfreithiau newydd i ddatrys y materion sy’n effeithio arnom ni fel cenedl mewn ffordd sy’n berthnasol i Gymru.

“Wrth wraidd ein rhaglen ddeddfwriaethol ceir ymrwymiad cadarn i wella gwasanaethau cyhoeddus a chreu cyfleoedd i bawb.

“Hyderaf y bydd y cynlluniau rwyf wedi’u hamlinellu heddiw yn helpu i drawsnewid ein cymdeithas ac yn gwneud Cymru’n lle gwell i fyw ynddo.”

‘Araf’

Wrth groesawu rhai o’r biliau, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies: “Mae nifer o’r biliau arfaethedig hyn, gan gynnwys cynlluniau i roi terfyn ar drais domestig, i’w croesawu’n fawr, ond maen nhw’n peri’r cwestiwn pam fod gweinidogion diog Llafur wedi bod mor araf yn eu cyflwyno nhw.

“Tra ein bod ni’n cefnogi’r cynigion i roi mwy o hyblygrwydd i fyrddau iechyd lleol wrth gynllunio cyllid i’w helpu nhw i ymdopi â record Llafur o ran toriadau i’r Gwasanaeth Iechyd, mae gwthio’r Bil trwodd yn gyflym yn cyfyngu gallu’r ACau i graffu ar y cynlluniau.

“Wrth i ddarpariaeth o ran addysg, y Gwasanaeth Iechyd a’r economi waethygu bob dydd, fydd cynlluniau Carwyn Jones ar gyfer y grŵp nesaf o gyfreithiau Cymreig ddim wir yn ennyn hyder.”