Rosemary Butler
Bydd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler AC yn croesawu’r Bevin Boys i’r Senedd heddiw er mwyn cydnabod eu cyfraniad i ymgyrch yr Ail Ryfel Byd.

Bydd 15 aelod o’r Bevin Boys o Gymru yn ymweld â’r Senedd fel rhan o aduniad i goffau eu hymdrech yn y rhyfel. Mae’r rhan fwyaf o’r aelodau yn  eu hwythdegau erbyn hyn.

Dynion ifanc oedd y Bevin Boys a gafodd eu consgriptio i weithio yn y pyllau glo rhwng 1943 a 1948. Roedd oddeutu 48,000 ohonyn nhw yn ymgymryd â gwaith angenrheidiol yn y pyllau er nad yw eu hymdrech wedi derbyn llawer o gydnabyddiaeth dros y blynyddoedd.

Dywedodd Rosemary Butler AC ei bod yn falch o wahodd aelodau o’r Bevin Boys i’r Senedd er mwyn cydnabod yr aberth a wnaethon nhw.

Meddai: “Roedd eu hymdrech yr un mor bwysig i drechu’r Natsïaid â’r rhai oedd yn brwydro ar y rheng flaen, ac ni ddylid anghofio hynny. Ni chafodd rhan fwyaf ohonynt eu rhyddhau o’r gwasanaeth am flynyddoedd yn dilyn diwedd y rhyfel.”

Ar Fai 7 eleni fe gafodd cofeb ei dadorchuddio gan Iarlles Wessex yn Swydd Stafford i gofio cyfraniad y Bevin Boys i’r rhyfel.