“Ychydig iawn o feirniadaeth haeddiannol” a gafodd ymddygiad Aelodau’r Cynulliad eleni, yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi.

Y cyfreithiwr Gerard Elias QC fu wrthi’n ymchwilio i safonau ymddygiad y gwleidyddion, ac fe gafodd dau achos eu crybwyll yn benodol ganddo.

Serch y digwyddiadau hynny, nodir yn yr adroddiad na fu unrhyw sgandal “arian am gwestiynau” yng Nghymru, na hawlio treuliau’n anghyfreithlon.

Dywedodd mai “ymddiriedolwyr enw da” y Cynulliad yw’r aelodau, a bod cyfrifoldeb arnyn nhw i gynnal safonau.

‘Llusern i arwain y ffordd’

Dywedodd Gerard Elias QC: “Yn gryno, dylai safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod yn llusern i arwain y ffordd ar gyfer pob corff a gwas cyhoeddus yng Nghymru.

“Fel y dywedais, efallai ei bod yn gyfrifoldeb trwm i Aelodau’r Cynulliad ond, hoffwn awgrymu’n barchus, ei fod yn un hollol hanfodol sy’n rhan o’r swydd.

“Rwyf wedi dweud sawl gwaith mai un o swyddi’r Comisiynydd yw gweithredu pryd bynnag y mae ymddygiad un o’r Aelodau yn peryglu enw da’r Cynulliad Cenedlaethol.”

‘Dwyn anfri ar enw da’r Cynulliad’

Ychwanegodd: “Yn ystod y flwyddyn sydd dan sylw yn yr adroddiad blynyddol hwn, bu raid i mi ymchwilio i ddwy gŵyn dderbyniadwy mewn cysylltiad ag Aelodau. Yr honiad oedd bod eu hymddygiad personol, a oedd yn ymwneud ag alcohol, wedi peryglu enw da’r Cynulliad Cenedlaethol.

“Yr oedd lleisiau – nid y ddau Aelod eu hunain – a oedd yn awgrymu bod yr ymddygiad dan sylw yn ymwneud ag ymddygiad personol a phreifat ac nad oedd, felly, yn fater i’r Comisiynydd Safonau.

“Mae arnaf ofn na allaf gytuno. Er fy mod yn cydnabod yn llwyr fod gan Aelodau’r hawl i fywyd preifat a phersonol a ddylai aros yn breifat a phersonol, rhaid i bob Aelod gydnabod bod unrhyw ymddygiad a gaiff ei honni i ddwyn anfri ar enw da neu uniondeb y Cynulliad Cenedlaethol, yn destun ymchwiliad a sancsiynau posibl.”

Ond fe rybuddiodd fod angen parhau i oruchwylio ymddygiad yr aelodau wrth i gyfrifoldebau’r sefydliad gynyddu.

Bydd darlith ar safonau’n cael ei thraddodi gan Arglwydd Brif Ustus Cymru, yr Arglwydd Judge ar Orffennaf 16.