Huw Lewis
Mae adroddiad wedi ei gyhoeddi sy’n argymell ailwampio dysgu Cymraeg i oedolion gan sefydlu trefn newydd o ran darpariaeth yr addysg.

Cafodd grŵp ei sefydlu fis Gorffennaf y llynedd gan y cyn-Weinidog Addysg Leighton Andrews i adolygu’r ddarpariaeth Cymraeg i oedolion gan edrych ar nifer o ffactorau gwahanol, megis cyrhaeddiad dysgwyr, cynnwys y cwricwlwm a gwerth am arian.

Mae’r grŵp bellach wedi rhyddhau’r adroddiad a’r casgliad yn gyffredinol yw y dylid newid y ffordd y mae addysg Cymraeg i oedolion yn cael ei ddarparu. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau newydd, Huw Lewis.

Mae’r grŵp wedi argymell sefydlu un corff cenedlaethol i fod yn gyfrifol am arwain darparwyr. Os yw’r argymhelliad yn cael ei fabwysiadu, yna byddai hyn yn golygu y byddai’r canolfannau presennol yn diflannu ac y byddai trefn newydd o ddarparwyr yn cael ei sefydlu.

Maen nhw hefyd o’r farn  bod angen i faes Cymraeg i oedolion fod yn llawer mwy uchelgeisiol er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.  Mae’r grŵp yn argymell:

  • cyrraedd mwy o ddysgwyr gan ddiwallu anghenion pobl sy’n

awyddus i ddysgu trwy wahanol ddulliau, gan gynnwys ar adegau

gwahanol o’r flwyddyn;

  • galluogi’r dysgwyr i ddefnyddio mwy o’u Cymraeg trwy roi mwy o

gefnogaeth a chyfleoedd iddynt;

  • creu profiad dysgu cyfoes a hyblyg;
  • manteisio ar botensial y byd digidol a’i ddefnyddio’n greadigol a gyda brwdfrydedd;
  • cynnig profiadau gwerthfawr ac unigryw i ddysgwyr drwy greu partneriaethau llawer cryfach â chymunedau a chymdeithasau Cymraeg; a
  • chreu partneriaethau newydd a gwahanol i ddenu cyllid ychwanegol.

‘Ymateb i anghenion dysgwyr

Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod polisi clir ar gyfer maes Cymraeg i oedolion ac yn annog cydweithio rhwng unrhyw gorff newydd a’r Comisiynydd Iaith.

Dywed yr adroddiad: “Rydym yn argyhoeddedig y byddai’r ad-drefnu hwn yn creu cyfundrefn fwy cydweithredol sy’n ymateb i anghenion dysgwyr, sy’n gost-effeithiol ac yn sicrhau bod ansawdd yn gwella. Rydym yn rhagweld y gellid gweld manteision mawr yn sgil ad-drefnu fel hyn.”

Yn ystod y broses o gasglu gwybodaeth bu’r grŵp yn cyfarfod a nifer o randdeiliad ac arbenigwyr yn y maes cyn cyhoeddi’r adroddiad.

Dywed Huw Lewis y bydd  yn ystyried yr argymhellion dros doriad yr haf ac yn cyhoeddi ei ymateb i’r adroddiad yn yr hydref.