Mae penaethiaid y Cynulliad wedi cael eu beirniadu gan Gymdeithas yr Iaith ar ôl iddyn nhw benderfynu peidio cyhoeddi manylion am gynllun iaith y sefydliad cyn pleidlais yr wythnos nesaf.

Dywed Cymdeithas yr Iaith fod penderfyniad Comisiwn y Cynulliad yn ‘wrth-ddemocrataidd’.

Dywedodd Bwrdd yr Iaith yn 2011 fod y Cynulliad yn torri ei gynllun iaith ei hun.

Mae’r gwariant ar wasanaethau Cymraeg yn y Cynulliad wedi gostwng 16% dros y tair blynedd diwethaf, sy’n cyfateb i £135,618.

Ar y cyfan, mae’r gyllideb gyffredinol wedi codi’n uwch na chwyddiant.

‘Papurau preifat’

Wrth gyfiawnhau eu penderfyniad mewn e-bost at y Gymdeithas, dywedodd swyddog o Gomisiwn y Cynulliad: “Bellach, mae holl bapurau’r Comisiwn yn bapurau preifat felly nid ydynt yn cael eu cyhoeddi.

“Mae papurau’r Comisiwn yn gyfyngedig os nad ydi’r Comisiynwyr yn cytuno eu cyhoeddi.

“Mae’r trefniant yma yn rhan o’r rheolau sy’n llywodraethu gweithdrefnau’r Comisiwn.

“Yn unol â’r ddarpariaeth, cytunodd y Comisiynwyr y dylai’r papurau ar gyfer y cyfarfod wythnos ddiwethaf gael eu cyfyngu.”

Er bod ymrwymiad bellach i gyhoeddi Cofnod o drafodion y sesiynau llawn o fewn cyfnod o 24 awr yn Gymraeg a Saesneg, does dim rhaid gwneud hynny yn ôl y cynllun iaith newydd.

Bydd pleidlais ar gynnwys y cynllun iaith yn cael ei chynnal ddydd Mercher nesaf.

‘Beth sydd gyda nhw i’w guddio?’

Dywedodd llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith, Sian Howys: “Mae’n gwbl wrth-ddemocrataidd bod swyddogion y Cynulliad wedi penderfynu cadw’r wybodaeth hon yn gyfrinachol.

“Beth sydd gyda nhw i’w guddio?

“Mae’n codi cwestiynau mawr am addewid y Cynulliad i fod yn sefydliad agored a blaengar.

“Mae’n syndod bod rheolwyr y Cynulliad heb gytuno â mwyafrif y pleidiau.

“Byddai peidio â dilyn eu hargymhellion yn golygu bod y Cynulliad yn groes i safonau drafft Comisiynydd y Gymraeg ac argymhelliad yr ymchwiliad annibynnol o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

“Mae’n bwysig gosod sylfaen Cynllun Ieithoedd y Cynulliad yn iawn.

“Nid ydym yn derbyn y sylwadau gan rai gwleidyddion sy’n awgrymu bod rhaid dewis rhwng cyfieithu dogfennau a defnydd o’r iaith ar lafar.

“Mae’n bwysig cael sylfeini cadarn er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg yn y Cynulliad.”