Carwyn Jones
Mae’r Gynhadledd Fawr – trafodaeth am ddyfodol yr iaith Gymraeg – yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw.

Bydd y digwyddiad yn cael ei ddangos yn fyw ar y we er mwyn cynyddu mynediad y cyhoedd i’r trafodaethau.

Mae’n rhan o drafodaeth ehangach ‘Iaith Fyw: cyfle i ddweud eich dweud’.

Cafodd barn y cyhoedd ei gasglu yn ystod y mis diwethaf trwy grwpiau ffocws, fforymau, arolygon, dros y ffôn ac ar-lein.

Fe fydd yr holl syniadau ar gyfer datblygu’r iaith Gymraeg a gafodd eu casglu yn cael eu trafod yn ystod y gynhadledd.

Cymerodd 2,100 o bobol ran yn yr arolwg ar-lein, ac fe fydd barn y cyhoedd yn helpu Llywodraeth Cymru i lunio polisïau iaith yn y dyfodol.

‘Angen buddsoddi yn yr iaith’

Bydd papur, sy’n cael ei gyflwyno yn y gynhadledd heddiw, yn awgrymu cynyddu’r buddsoddiad yn y Gymraeg.

Dywed Mudiadau Dathlu’r Gymraeg fod angen buddsoddi yn yr iaith i lefel debyg i fuddsoddiadau yng Ngwlad y Basg.

Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi 1% o’i chyllideb yn y Gymraeg.

Cyn y gynhadledd, dywedodd Cadeirydd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, Huw Thomas: “Cred Mudiadau Dathlu’r Gymraeg fod angen rhagor o adnoddau i sicrhau ffyniant i’r Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod.

“Hefyd, dylid arallgyfeirio gwariant presennol i sicrhau cyfran deg i ddatblygu a chryfhau cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.

“Oherwydd patrymau gwariant hanesyddol, prin yw buddsoddiad y Llywodraeth yn y Gymraeg.

“Araf hefyd yw’r ymgais i brif-ffrydio’r Gymraeg drwy adrannau’r Llywodraeth ac yn aml nid yw polisïau newydd yn cymryd i ystyriaeth Strategaeth y Gymraeg y Llywodraeth.”

‘Diogelu’r iaith’

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Mae ymatebion pobol i’r drafodaeth hyd yn hyn yn dangos pa mor gryf maen nhw’n teimlo ynghylch dyfodol y Gymraeg.

“Mae’r iaith yn rhan o’n hunaniaeth ddiwylliannol ac mae’n iawn fod pobol yn teimlo bod yn rhaid ei gwarchod.

“Dyna pam rydyn ni’n cynnal trafodaeth genedlaethol ar ei dyfodol, ac rydyn ni’n awyddus i gael sylwadau pobol am y ffordd orau o ddiogelu’r iaith gan sicrhau bod pobol yn cael y cyfle i’w defnyddio yn eu bywydau bob dydd.”

Ychwanegodd fod nifer o bobol ddi-Gymraeg hefyd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth.

Bydd trafodaethau panel ac astudiaethau achos yn cael eu trafod yn ystod y gynhadledd.

Bydd pwyslais ar sut i gefnogi cymunedau a rhwydweithiau Cymraeg, a sut i helpu unigolion i fyw trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r gynhadledd yn dechrau am 10am ac yn gorffen am 4pm.

Fe fydd y trafodaethau i’w gweld ar www.cymru.gov.uk/iaithfyw.