Mae un o gyfarwyddwyr dramâu mwyaf adnabyddus Cymru, Gruffydd Jones wedi marw.

Bu farw dros y penwythnos ar ôl cyfnod o salwch.

Roedd yn adnabyddus am ei waith gyda chwmni theatr Bara Caws a bu’n cyfarwyddo nifer o ddramâu i’r cwmni ar hyd y blynyddoedd.

Dywedodd Linda Brown o Theatr Bara Caws: “Mae pawb yma yn drist iawn ar ôl clywed y newyddion am Gruff. Roedd ei gyfraniad i’r theatr a’r ddrama Gymraeg yn amhrisiadwy. Bu’n gweithio’n agos iawn â’r cwmni ar hyd y blynyddoedd a bydd colled enfawr ar ei ôl.”

Dywedodd Linda Brown fod nifer o actorion wedi ffonio’r cwmni yn talu teyrngedau i Gruffydd Jones a bod hyn ynddo’i hun yn adlewyrchu pa mor boblogaidd oedd.

Ychwanegodd: “Roeddwn yn ymwybodol nad oedd wedi bod yn dda ers tro ond pan glywais y newyddion, roedd yn sioc fawr. Roedd yn ddyn annwyl yn ogystal â bod yn hynod alluog.”