Torfaen (nordnordwest CCA3.0)
Mae Cymdeithas yr Iaith yn bygwth cymryd “camau pellach” tros ddiffyg Cymraeg ar wefan Cyngor Torfaen.

Dywedodd y Cyngor dros flwyddyn yn ôl eu bod nhw wrthi’n ail-wampio’r safle, oedd yn cynnwys creu fersiwn Gymraeg, ac y byddai’r gwaith wedi’i gwblhau erbyn dechrau’r flwyddyn hon.

Yn adroddiad y Cyngor y llynedd, dywedodd y Prif Weithredwr, Alison Ward, y byddai fersiwn dwyieithog o’u gwefan ar gael erbyn dechrau 2013.

Daeth y cyhoeddiad hwnnw ar ôl blwyddyn o ymgyrchu, yn ôl Cymdeithas yr Iaith sy’n dadlau bod y diffyg yn “diystyrru” polisi iaith y Cyngor.

‘Siomedig’

Dywedodd aelod lleol o Gymdeithas yr Iaith, Yvonne Balakrishnan: “Siomedig dros ben yw’r newyddion bod Cyngor Torfaen unwaith eto yn methu cadw at eu haddewid i gyflwyno safle we yn yr iaith Gymraeg.

Dywedodd fod y sefyllfa’n “anobeithiol” a bod y Cyngor yn “llusgo’u traed”.

“Mae’r diffyg ymateb i’n llythyron a’r cyfarfodydd rydym wedi eu cael gyda’r Cyngor yn dangos nad yw’r Cyngor yn cymryd y mater o ddifrif,” meddai Ysgrifennydd Rhanbarthol y Gymdeithas, Branwen Brian.

“Os na fydd y Cyngor yn gwireddu eu haddewid yna mi fydd rhaid i ni gymryd camau pellach i sicrhau bod y wefan yma yn cael ei lansio.”

Ymateb y Cyngor

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Torfaen: “Mae’r cyngor mewn cyswllt rheolaidd â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg sy’n cydnabod cynnydd sylweddol y cyngor, ynghyd â’i ymdrechion parhaus i ddatblygu gwasanaethau yn Gymraeg.

“Dim ond un agwedd o’r polisi iaith Gymraeg yw datblygu gwefan ddwyieithog. Ers Ebrill, comisiynwyd gwasanaeth cyfieithu allanol i gynorthwyo gyda’r broses cyfieithu. Mae tua 75% o’r tudalennau gwe wedi cael eu cyfieithu erbyn hyn a byddant yn mynd yn fyw unwaith y bydd y safle yn cael ei phrofi.

“Mae swyddogion yn cysylltu’n rheolaidd â chynrychiolwyr rhanbarthol Cymdeithas yr Iaith ac mae cyfarfod i weld y wefan wedi cael ei drefnu ar gyfer 12 Gorffennaf.

“Gyda’r cyfarfod yma eisoes wedi ei gadarnhau, siomedig iawn yw’r ffaith fod y gymdeithas yn ei hystyried yn amserol i ddenu’r math yma o gyhoeddusrwydd serch yr holl drafodaethau a gynhaliwyd eisoes, a’r cyfle y rhoddwyd iddynt i gynnig adborth am y wefan.”