Un o gemau OysterWorld
Mae cwmni gemau cyfrifiadurol yn Llundain yn bwriadu agor safle newydd yn Nhrefforest ger Pontypridd gan greu 60 o swyddi dros y tair blynedd nesaf.

Mae OysterWorld yn sefydlu ei ganolfan  ddatblygu, marchnata ac ymchwil ar Barc Busnes Melin Corrwg yn Nhrefforest.

Mae’r cwmni’n cynhyrchu gemau ar-lein sydd wedi’u hanelu at blant a hefyd wedi creu gemau ar gyfer PS3, XBox 360 a Wii Nintendo.

Mae’r cwmni wedi derbyn £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ehangu’r cwmni.

Dywedodd y Gweinidog Economi Edwina Hart bod y newyddion yn hwb sylweddol i’r sector digidol yng Nghymru.

“Roedden ni’n cystadlu yn erbyn Canada am y prosiect yma felly rwy wrth fy modd i groesawu OysterWorld i Gymru,” meddai.

Dywedodd bod gan Gymru “cronfa o dalent” ym maes datblygu gemau a bod denu cwmni fel OysterWorld “yn anfon neges glir i’r diwydiant bod gan Gymru’r sgiliau a’r dalent i gefnogi’r sector yma.”

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn cyd-fynd a Sioe Datblygu Gemau Cymru sy’n cael ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd gyda 50 o gwmnïau yn arddangos eu gemau diweddaraf.

Dywed OysterWorld eu bod yn bwriadu cyflogi staff profiadol ynghyd a graddedigion ifainc, talentog.

“Ry’n ni eisoes yn gweithio gyda Phrifysgol De Cymru sydd ag enw ardderchog yn y maes yma,” meddai Tony Bailey, rheolwr gyfathrebu’r cwmni.