Leighton Andrews a ymddiswyddodd ddoe
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar y Prif Weinidog Carwyn Jones i gymryd cyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg yn sgil ymddiswyddiad Leighton Andrews.

Ddoe, fe ymddiswyddodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, tros brotest yn erbyn cau ysgol yn ei etholaeth.

Ond mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod yr ymddiswyddiad yn gyfle i Carwyn Jones ei hun gymryd cyfrifoldeb am yr iaith.

Meddai Robin Farrar, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Yng Nghatalonia mae arweinydd y wlad yn gyfrifol am y portffolio iaith.

“Cawsom gyfarfod adeiladol gyda Carwyn Jones i drafod sefyllfa’r iaith Gymraeg yn gynharach eleni – roedd yn fodlon ystyried llawer o’r argymhellion yn ein Maniffesto Byw.

“Ar adeg mor dyngedfennol i’r iaith gyda sefyllfa S4C yn y fantol, yr angen am ymateb cryf i ganlyniadau’r Cyfrifiad a’r safonau iaith arfaethedig, byddai’n dda cael arweiniad clir o’r lefel gwleidyddol uchaf.

“Yr hyn sydd wir ei angen yw prif-ffrydio’r iaith ar draws gwaith holl adrannau’r Llywodraeth – fel mae’r oedi dros y TAN 20 (canllawiau cynllunio’r Llywodraeth) newydd yn ei ddangos.

“Dim ond gydag arweiniad o’r top gall bolisïau newid yn y ffordd sydd  angen, yn drawsadrannol, er mwyn cryfhau’r Gymraeg yn sgil canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad. Byddai hefyd yn arwydd bod y Gymraeg yn cael ei chymryd o ddifrif gan y Llywodraeth.”