Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i sylwadau hiliol gael eu crafu ar gar oedd wedi ei barcio yn Sw Môr Môn ym Mrynsiencyn ger Llanfair PG ddydd Llun.

Roedd teulu o’r gogledd ddwyrain wedi ymweld â’r Sw Môr ddoe ac ar ôl dychwelyd i’r maes parcio wedi darganfod bod rhywun wedi crafu sylwadau hiliol ar eu car.

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn y maes parcio rhwng 11yb a 1yp ddoe ac a oedd yn ymddwyn yn amheus, yn enwedig wrth ymyl y car, Toyota Yaris du.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.