Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer canolfan sy’n cynnig cymorth ac adferiad i bobl sy’n gaeth i alcohol a  chyffuriau.

Fe ddaeth yr alwad gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg  yn ystod eu cyfarfod blynyddol ym Mangor ar ôl i gynadleddwyr glywed bod Y ‘Stafell Fyw yng Nghaerdydd yn wynebu argyfwng ariannol.

Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi penderfynu cyfrannu £5,000 yn syth fel rhodd i’r ‘Stafell Fyw, gan annog enwadau ac eglwysi Cristnogol eraill i helpu hefyd.

‘Gwasanaeth cwbl arbennig’

Fe ddywedodd cyn-lywydd yr Undeb, y Parchedig Alun Lenny, ei bod hi’n siom enbyd nad oedd y Llywodraeth yn barod i ariannu’r gwaith.

“Mae’r ‘Stafell Fyw yn cynnig gwasanaeth cwbl arbennig,” meddai. “Dylai fod ‘Stafell Fyw ymhob sir yng Nghymru,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau ac mae’n parhau i fuddsoddi dros £50 miliwn y flwyddyn i’r gwaith pwysig hwn.

“Mae’r rhan fwyaf o’r arian hwn wedi ei ddyrannu i Fyrddau Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau sy’n gyfrifol am gynllunio, comisiynu a rheoli perfformiad gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.”