Carwyn Jones
Mae disgyblion Ysgol Gyfun Garth Olwg ger Pontypridd wedi bod yn trafod dyfodol y Gymraeg yn ystod ymweliad Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Roedd y drafodaeth yn rhan o ‘Iaith Fyw: Cyfle i ddweud eich dweud’ sy’n gwahodd pobl o bob rhan o’r wlad, i fynegi eu barn a rhannu eu syniadau ar gyfer yr iaith.

“Roedd yn braf cael siarad â’r disgyblion brwdfrydig yn Ysgol Gyfun Garth Olwg heddiw a chlywed eu syniadau ar sut orau i sicrhau bod yr iaith yn ffynnu,” meddai Carwyn Jones.

“Pobl ifanc yw dyfodol yr iaith ac rydym eisiau clywed am y materion amrywiol sy’n effeithio arnynt. Er enghraifft, rydym eisiau gwybod pam fod cymaint o bobl ifanc sy’n gallu siarad Cymraeg ddim yn siarad yr iaith yn gymdeithasol, a sut i’w hannog i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r ysgol.”

Mae’r drafodaeth hefyd yn cymryd lle o fewn grwpiau cymunedol tebyg ar draws Cymru, megis canghennau Merched y Wawr, yr Urdd a’r mentrau iaith.

Y Gynhadledd Fawr

Fe fydd y pwyntiau a godwyd yn ystod y trafodaethau yma’n cael eu trafod ymhellach mewn cynhadledd undydd genedlaethol, Y Gynhadledd Fawr, sy’n cael ei chynnal yn Aberystwyth ar 4  Gorffennaf.

Mi fydd y wybodaeth a gasglwyd yn ystod y trafodaethau yma a’r Gynhadledd Fawr yn cael eu defnyddio i lywio polisi a gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol yr iaith.

Dywedodd Carwyn Jones: “Dyma gyfle gwych i bobl ar draws Cymru, o bob oed a chefndir, i ddweud eu dweud a gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae’r iaith yn rhan sylweddol o’n hunaniaeth ddiwylliannol, ac mae gan bawb rôl bwysig i’w chwarae o ran sicrhau ei bod yn ffynnu.”

Mae modd i’r cyhoedd gymryd rhan yn y drafodaeth drwy ddefnyddio fforwm ar-lein, drwy lenwi arolwg ar-lein, drwy Facebook a Twitter a defnyddio’r hashnod #iaithfyw, drwy e-bostio iaithfyw@iaith.eu neu drwy ffonio 01239 711 668.