Gary Griffiths
Mae un o brif gystadlaethau canu clasurol y byd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd yr wythnos hon ac mae un canwr o Sir Gaerfyrddin gyda phwysau Cymru ar ei ysgwyddau.

Mae’r gystadleuaeth, sy’n cael ei chynnal bob dwy flynedd yn Neuadd Dewi Sant ac sy’n cael ei threfnu gan y BBC, yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 eleni.

Cynhaliwyd clyweliadau dros y byd ac mae 20 o gantorion o dros 400 wnaeth ymgeisio wedi cael eu dewis ar gyfer y gystadleuaeth 8 diwrnod.

Mae 5 canwr yn cystadlu bob nos yr wythnos hon  er mwyn gwneud eu gorau i gael eu dewis gan y beirniaid i fynd i’r rownd derfynol nos Sul.

Heno bydd y bariton Gary Griffiths o bentref Pen-bre yn cystadlu yn erbyn cantorion o Lithwania, Portiwgal, Yr Wcráin  a Belarws.

Dywedodd wrth Golwg360 ei fod yn hapus gyda’i waith paratoi ar gyfer y gystadleuaeth.

“Mae’r pwysau yn aruthrol, ond rwy’n teimlo’n hapus iawn gyda fy mharatoadau,” meddai.

“Mae wedi bod yn bedwar i bum mis o baratoi, bwyta’n iach, cadw’n heini, dim nosweithiau mawr. A dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn perfformio fy repertoire ar gyfer y Wobr Datganiad unwaith yr wythnos mewn neuaddau ar draws Prydain, ac wedi mwynhau bob eiliad.

“Bydd wastad rhywfaint o nerfau, ond mae’n bwysig cael y cydbwysedd rhwng nerfau, paratoi’r llais a chyffro’r perfformiad. Rwy’n nabod tri o’r cantorion eraill – roedd Katherine Broderick a Ben Johnson, a fydd yn cynrychioli Lloegr, a Susana Gaspar fydd yn cynrychioli Portiwgal, yn yr un flwyddyn coleg a fi.”

Llwyfan i gantorion

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chydnabod fel un o’r prif lwyfannau i gantorion opera a chyngerdd ar gychwyn eu gyrfaoedd ac mae’n gyfle gwych meddai Gary.

“Dyw cantorion opera ifanc ddim yn cael cyfleoedd fel hyn yn aml iawn, mae’r gystadleuaeth yn hollol unigryw. Mae’n rhoi cyfle i gantorion berfformio o flaen cynulleidfaoedd yn fyw yn Neuadd Dewi Sant a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ond hefyd yn rhoi llwyfan i ni ar draws teledu a radio. Mi fydd llygaid y byd opera ar y brifddinas wythnos nesaf, ac mae hi’n deimlad cynhyrfus iawn.”

Daeth Bryn Terfel, sydd erbyn hyn yn un o gantorion opera enwocaf y byd, yn ail yn y gystadleuaeth yn 1989, ond a yw Gary’n credu y gallai fynd un yn well?

“Dydw i ddim yn siŵr am hynny, ond mae Bryn wedi bod yn garedig iawn i mi. Fe ddaeth e i wrando ar fy repertoire gan roi cyngor ac awgrymiadau arbennig i mi. Rwy’n siŵr bod nifer ohonom ni yn y byd opera yn edrych at Bryn ar gyfer ysbrydoliaeth – mae e’n berfformiwr anhygoel.

“Ond yn amlwg, mae hi’n anrhydedd mawr cynrychioli Cymru, yn enwedig mewn cystadleuaeth mor fyd eang a Chanwr y Byd. Rwy’n ceisio peidio meddwl yn ormodol am y pwysau, ond canolbwyntio ar yr hyn rwyf wedi bod yn paratoi dros y flwyddyn ddiwethaf. Y canu a’r perfformiadau fydd yn bwysig a dyna fydd fy ffocws i.”

Bydd Tim Rhys-Evans a Connie Fisher yn cyflwyno uchafbwyntiau o berfformiadau Gary Griffiths a’r pedwar canwr arall ar BBC 2 Cymru am 10yh heno.