Adam Price
Adam Price yw unig ymgeisydd Plaid Cymru yn yr isetholiad i ddewis olynydd i Rhodri Glyn Thomas fel Aelod Cynulliad yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Roedd pedwar ymgeisydd ar y rhestr ychydig cyn i’r enwebiadau gau ar Fehefin 10, ond mae’r tri arall wedi tynnu allan o’r ras.

Golyga hynny mai dewis uniongyrchol sydd bellach rhwng Adam Price ac Ail-Agor Enwebiadau (RON).

Os nad yw Adam Price yn cael ei ystyried yn ymgeisydd addas, fe fydd etholiad yn cael ei gynnal unwaith eto gydag ymgeisydd neu ymgeiswyr newydd.

Mae disgwyl i ddau gyfarfod gael eu cynnal gan y Blaid ar Orffennaf 4 a Gorffennaf 11.

Dywedodd y Swyddog Etholiadau, Sian Thomas: “Rydym wedi symud yn ffurfiol i ail gam y broses ac mae’r penderfyniad yn awr yn nwylo aelodau’r blaid.

“Mae’n dod yn fwyfwy amlwg i bleidleiswyr Sir Gaerfyrddin nad oes unrhyw wahaniaeth rhwng y Blaid Lafur a’r Blaid Geidwadol. Plaid Cymru yw’r unig ddewis arall i wleidyddiaeth o galedi.

“Bydd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, felly, yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod Plaid Cymru yn ffurfio Llywodraeth Cymru yn dilyn  etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 2016.

“Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd aelodau’r blaid yn gallu dewis i gymeradwyo Adam Price i ymladd  y sedd yn yr etholiad cyffredinol nesaf Cymru neu ail agor enwebiadau ”.