Heledd Fychan - cyfri' Twitter yn ei chefnogi
Mae cyfri’ newydd ar Twitter wedi’i greu er mwyn hyrwyddo ymgeisydd i sefyll yn lle Ieuan Wyn Jones ym Môn.

Ond mae’n dwyn enw un o’r ddwy sydd eisiau cymryd lle Alun Ffred Jones yn Arfon.

Y prynhawn yma, ychydig oriau wedi cyhoeddiad Ieuan Wyn Jones ei fod yn bwriadu rhoi’r gorau i gynrychioli pobol Môn yn y Cynulliad ym Mae Caerdydd, fe ymddangosodd cyfri’ ‘Fychan i Fôn’ ar y wefan gymdeithasol Twitter.

Mae Heledd Fychan wedi cadarnhau wrth Golwg360 nad oes ganddi unrhyw gysylltiad â’r cyfrif, ac nad oes ganddi syniad pwy sydd wedi’i greu.

Ond mae wedi derbyn cefnogaeth gan y Tori a safodd yn ei herbyn mewn etholiad yn Sir Drefaldwyn.

“Dw i’n cefnogi Heledd ar gyfer etholaeth Sir Fôn,” meddai Glyn Davies. “Takes no prisoners. Gobeithio nad ydw i wedi sbwylio ei gobeithion hi.”

Ond mae eraill yn dweud ei bod yn “gwbwl amhosib” i Heledd Fychan “neidio’r ffens” bellach, a hithau eisoes wedi cyflwyno’i henw yn ymgeisydd yn Arfon.

Mae’r hystings ar gyfer yr enwebiad hwnnw’n digwydd y ddwy nos Wener nesa’ – Mehefin 21 a 28.