Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: “Mae gan Ieuan Wyn Jones record balch o wasanaethu pobol Ynys Môn am 26 mlynedd.

“Mae ei benderfyniad i fynd i’r afael â’r her newydd o arwain y prosiect Parc Gwyddoniaeth yn barhad o’i ymrwymiad i’r ardal.

“Does gen i ddim amheuaeth y bydd ei benderfynoldeb i drawsnewid yr economi leol erg well yn gyrru’r prosiect parc gwyddoniaeth yn ei flaen yn llwyddiannus.”

‘Neb gwell’

Ychwanegodd Aelod Cynulliad Arfon, Alun Ffred Jones, sydd hefyd wedi datgan ei fwriad i roi’r gorau i’w swydd yn yr etholiad nesa’, nad oes “neb gwell i arwain Parc Gwyddoniaeth y Fenai”.

Estynnodd ei longyfarchiadau “i fy ffrind Ieuan Wyn Jones ar gymryd swydd hynod bwysig i economi’r Gogledd”.

Dafydd Êl

Dywedodd Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd, Dafydd Elis-Thomas fod “cyfraniad Ieuan Wyn Jones i wleidyddiaeth Cymru a thwf ei chyfansoddiad yn gwbl arbennig” a bod ei benodiad yn “gam gwych arall”.

A beth am y gwrthbleidiau?

Yn ôl Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghanol De Cymru, Eluned Parrott, “bydd colled ar ôl ei lais credadwy, deallus yn y Cynulliad”.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies y “bu Ieuan yn Aelod Cynulliad effeithiol erioed” a’i fod yn “cymeradwyo’i flynyddoedd lawer o wasanaeth cyhoeddus”.

Ychwanegodd cyn-Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan ei fod “wedi gwasanaethu Cymru gyda balchder”.