Endaf Gremlin
Gyda llai na deufis i fynd cyn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae trefnwyr gigs Maes B yn cynnal taith arbennig o amgylch Cymru i hyrwyddo’r ŵyl ac i hybu’r sîn Gymraeg.

Mae grwp newydd wedi’i greu ar gyfer y daith sy’n cychwyn nos Iau 27 Mehefin yn Gwdihw, Caerdydd, gan ddod ag aelodau o rai o grwpiau mwyaf adnabyddus Cymru.

Enw’r grwp ydi Endaf Gremlin, ac mae eisoes wedi gwneud sesiwn ar gyfer rhaglenni pobol ifanc Radio Cymru, C2.

Pwy ydi aelodau Endaf Gremlin?

Mei Gwynedd (Sibrydion)

Osian Williams (Candelas)

Rhys Aneurin (Yr Ods)

Dylan Hughes (Race Horses)

Dafydd Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) 

Taith Maes B

Guto Brychan, trefnydd Maes B sy’n trefnu’r daith hon: “Mi fuon ni’n trafod y syniad o gael Taith Maes B yn dilyn cyfarfod nifer o bobl ifanc mewn grwpiau ffocws ddiwedd y llynedd. 

“Roedd yn amlwg bod galw am gyfres o gigs Cymraeg ddiwedd Mehefin neu ddechrau Gorffennaf, unwaith mae pwysau gwaith arholiadau wedi pasio. 

“A be’ gwell i’w hyrwyddo na Maes B?  Mis i fynd tan yr Eisteddfod – mae’r amseru’n berffaith.”