Dwy ddynes sydd yn y ras i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer yr etholiad i fod yn Aelod Cynulliad Arfon yn 2016.

Yn ôl Sian Gwenllïan mae hi’n cael ei gweld fel “olynydd naturiol” Alun Ffred, tra mae Heledd Fychan eisiau “sicrhau swyddi i’r gogledd”.

Yn etholiad Cynulliad 2011 fe ddenodd Alyn Ffred Jones 57% o’r bleidlais, ac mi fydd ei olynydd yn amddiffyn mwyafrif swmpus o 5,394.

Felly teg yw tybio y bydd pwy bynnag sy’n ennill yr ornest rhwng Heledd Fychan a Sian Gwenllïan ymhen pythefnos yn dod yn Aelod Cynulliad nesaf Aefon.

Heledd Fychan yw Cyfarwyddwr Polisi ac Addysg Wleidyddol y Blaid, a Sian Gwenllïan yw’r cynghorydd sir sy’n gyfrifol am Addysg ar Gabinet Cyngor Gwynedd.

Daw Heledd Fychan o Fôn ac mae’n byw yng Nghaerdydd

Pam sefyll?

“Un o’m prif resymau dros sefyll yw fod angen sicrhau swyddi i’r gogledd a gwneud yn siwr fod y Gymraeg yn parhau. Ni ddylai Plaid gymryd yn ganiataol ein bod am ennill Arfon, ond rwy’n gobeithio os caf fy newis y byddwn yn aelod effeithiol dros yr etholaeth, fel fod Plaid yma am ddegawdau eto!” 

A yw’r ffaith nad ydych yn byw yn yr etholaeth yn mynd i’ch rhwystro?

“Rhaid bod yn ymarferol, ac er fy mod yn sicr yn gweld fy nyfodol yn y Gogledd sef ardal fy magwraeth, mae diffyg swyddi yn golygu nad wyf yno nawr, fel sy’n wir i nifer o Gymru erbyn hyn.  Rwy’n teimlo’n angerddol am yr ardal ac yn ymweld â’r ardal bob cyfle y caf yn enwedig pan mae ymgyrchoedd yn mynd rhagddynt. Mae fy ngwreiddiau yn yr ardal, felly Arfon amdani!”  

Sian Gwenllïan yw Cynghorydd Felinheli

Pam sefyll?

“Hoffwn gyfrannu i’r gwaith o arwain Cymru i annibyniaeth ac o greu cymdeithas gyfartal a theg yn ein gwlad. Fel un sydd a’i gwreiddiau yn nwfn yn Arfon, dw i am weld yr economi leol yn datblygu, swyddi yn cael eu creu a gwell dyfodol i blant a phobol ifanc Arfon. Mae gen i’r sgiliau a’r profiad i fod yn ymgeisydd cryf ac er nad oes na’r un ohonom isho gweld Alun Ffred yn rhoi’r gorau iddi, dw I yn meddwl bydd pobol Arfon yn fy ngweld i fel olynydd naturiol iddo fo yn 2016.”

A yw ad-drefnu ysgolion Gwynedd am wneud niwed i’ch ymgyrch?

“Mae bod yn aelod Cabinet yn golygu pwyso a mesur y ffeithiau a dod i benderfyniadau sydd ddim bob tro yn plesio pawb. Mae hynny yn brofiad gwych i wleidydd sydd yn barod i gymryd cyfrifoldeb. Ar hyn o bryd, mae rhai yn ardal Carmel a Fron yn anhapus gyda’r penderfyniad i gau dwy ysgol a chodi ysgol ardal newydd yn Y Groeslon a dw i yn cydymdeimlo efo nhw. Mae eraill yn gweld mai dyma oedd yr unig ddewis o dan yr amgylchiadau. Y nod yw agor drysau ysgol newydd yn 2015 ar gyfer plant y fro honno a hefyd agor ysgol newydd ym Maesgeirchen, Bangor erbyn 2016 fel rhan o gynllun ad-drefnu ysgolion Cyngor Gwynedd yn Arfon.”