Kate Roberts
Mae cartref yr awdures Kate Roberts wedi cael ei gymryd drosodd gan gorff treftadaeth Cymru, Cadw.

Cafodd Cae’r Gors, bwthyn rhestredig yn Rhosgadfan ei atgyweirio yn 2007 a’i drawsnewid yn ganolfan dreftadaeth i gofio hanes a bywyd yr awdures a’i hadnabyddir fel ‘Brenhines ein Llên.

Agorwyd Cae’r Gors ar ôl deng mlynedd o ymgyrchu cyhoeddus a derbyniwyd nawdd gan Gronfa Coffa’r Dreftadaeth Genedlaethol.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant John Griffiths, wrth ymweld â Chae’r Gors heddiw: “Mae pwysigrwydd gwaith llenyddol Kate Roberts i bobl Cymru yn amlwg iawn yn genedlaethol a rhyngwladol.

“Bydd Cadw yn gweithio’n agos ag Ymddiriedolaeth Cae’r Gors i’w ddatblygu’n atyniad treftadaeth i ymwelwyr ac fel lle i ddysgu a dathlu llenyddiaeth Cymru.”

Kate Roberts

Yn un o wyth o blant, bu Kate Roberts yn byw yng Nghae’r Gors tan 1910. Yn Bryn Gwyrfai ym mhentre’ Rhosgadfan y cafodd ei geni yn 1891, ac mae’n disgrifio mudo i Gae’r Gors tua 1895 yn ei hunangofiant, Y Lôn Wen.

Yn 1965 fe brynodd ei chyn-gartref a sicrhau ei ddyfodol i’r genedl.

Roedd Kate Roberts yn adnabyddus am ysgrifennu straeon yn darlunio treialon teuluoedd chwarel ac ymysg ei gwaith mwyaf adnabyddus mae ei chyfrol o straeon byrion, Te yn y Grug a’i nofel Traed Mewn Cyffion. Bu farw yn 1985 yn 94 mlwydd oed.