Andrew RT Davies
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies wedi cyhuddo’r Prif Weinidog, Carwyn Jones o anwybyddu ymgyrch gan aelodau’r Blaid Lafur yn erbyn is-raddio gwasanaethau iechyd.

Dywed Andrew RT Davies nad yw’r Gwasanaeth Iechyd yn ddiogel yn nwylo Llywodraeth Cymru.

Yn ôl rhai o aelodau’r Blaid Lafur yn y Cynulliad a’r Senedd, gallai gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg gau.

Yr wythnos hon, cafodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews ei feirniadu am ei ran mewn ymgyrch i achub gwasanaethau yn yr ysbyty.

‘Llafur dros y lle i gyd’

Dywedodd Andrew RT Davies: “Mae’r Blaid Lafur dros y lle i gyd o ran ei chynlluniau di-angen i is-raddio neu gau gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys mewn ysbytai cyffredinol rhanbarthol.

“Cefnogodd Leighton Andrews a gwleidyddion Llafur eraill doriadau Llafur o £800 miliwn i’n Gwasanaeth Iechyd a nawr maen nhw’n chwarae ar ofidion pobol ddiniwed am y potensial o golli gwasanaethau hanfodol y Gwasanaeth Iechyd.

“Mae angen gwleidyddion ar Gymru sydd â’r dewrder i fod yn onest am eu bwriadau yn hytrach na chefnogi polisi yn y Cabinet ac ymgyrchu yn ei erbyn yn ei etholaeth ei hun.

“Mae’n gynyddol eglur nad yw’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’n ddiogel yn nwylo’r Blaid Lafur.”