Leighton Andrews
Mae Carwyn Jones wedi rhoi cerydd i aelod o’i gabinet ar ôl iddo ymgyrchu i ddiogelu  gwasanaethau ysbyty yn Llantrisant.

Dywedodd  Prif Weinidog Cymru heddiw na fyddai hawl gan ACau ddefnyddio enw’r Blaid Lafur ar gyfer ymgyrchoedd tebyg yn y dyfodol.

Yr wythnos diwethaf, cafodd gwefan ei sefydlu gan y Gweinidog Addysg Leighton Andrews a gwleidyddion Llafur eraill, yn ymgyrchu yn erbyn cynlluniau i newid gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

Roedd Leighton Andrews wedi honni y gallai’r uned ddamweiniau ac achosion brys “ddiflannu” o dan gynlluniau ad-drefnu’r bwrdd iechyd.

Ond mae Carwyn Jones wedi mynnu na fydd hynny’n digwydd o dan y cynlluniau sydd dan ystyriaeth.

Mae’r wefan, labour4royalglam, bellach wedi cael ei dynnu o’r we ac mae safle newydd wedi ymddangos, campaign4royalglam, sydd ddim yn defnyddio enw na logo’r Blaid Lafur.

Ychwanegodd Carwyn Jones nad oedd unrhyw un wedi torri rheolau’r Cynulliad yn ystod yr ymgyrch.

Mae’r Blaid Geidwadol yng Nghymru yn honni bod y ffrae yn profi’r rhwyg o fewn y Blaid Lafur ynglŷn ag ad-drefnu gwasanaethau iechyd a bod angen eglurhad ynglŷn â safiad y blaid.