Mae cynlluniau dadleuol am forglawdd ar draws aber yr Afon Hafren wedi cael eu beirniadu gan grŵp o Aelodau Seneddol.

Mae cwmni Hafren Power am godi morglawdd 11 milltir o hyd rhwng Pen Larnog ger Penarth ym Mro Morgannwg a Brean ger Weston-super-Mare yng Ngwlad yr Haf.

Mae cefnogwyr y cynllun wedi dweud y gallai’r morglawdd gyflenwi hyd at 5% o ynni trydan y DU yn flynyddol.

Ond mewn adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw gan Bwyllgor Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan dywed ASau bod y cynlluniau presennol ar gyfer system bŵer llanw a gyflwynwyd gan gwmni Hafren Power, yn anfoddhaol am resymau economaidd ac amgylcheddol.

Dywedodd Tim Yeo AS, cadeirydd y pwyllgor: “Mae angen tystiolaeth fwy cadarn a manwl am gynlluniau Hafren Power. Ni allwn argymell y cynllun fel y cyflwynir hi ar hyn o bryd.”

Dywedodd yr ASau bod effaith y cynllun ar bysgod a bywyd môr, yn ogystal â’r perygl o lifogydd yn yr ardal heb gael ei asesu’n ddigonol.

Dywedodd Tim Yeo hefyd bod pryderon economaidd ynglŷn â pha mor gystadleuol fyddai’r cynllun o’i gymharu â mathau eraill o ynni carbon isel.

“Mae angen llawer mwy o fanylion a thystiolaeth cyn bydd y prosiect yn cael ei ystyried yn dderbyniol yn amgylcheddol. Dyw pryderon diwydiant, yn enwedig y porthladdoedd cyfagos, heb gael eu hateb yn iawn ac mae’r effaith ar swyddi a thwf yn parhau i fod yn aneglur,” meddai.

‘Rhwystredig’

Dywedodd Hafren Power – sy’n cael cefnogaeth cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain – eu bod nhw’n gwrthod darganfyddiadau’r pwyllgor ac wedi dweud fod yr adroddiad yn  “rhwystredig .”

Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Tony Prior, mewn datganiad: “Rydyn ni i gyd yn gwybod fod gennym ni lawer mwy o waith i’w wneud, ac fe fyddwn ni’n gwneud hynny.

“Rydym yn credu y gall y pryderon amgylcheddol ac economaidd gael eu datrys gyda phawb yn gweithio gyda’i gilydd.”

‘Adroddiad yn suddo Morglawdd Hafren’

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi croesawu darganfyddiadau’r pwyllgor. Dywedodd cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gareth Clubb:

“Mae’r adroddiad wedi suddo Morglawdd Hafren. Mae’n cadarnhau beth mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi dadlau ers blynyddoedd – ei fod yn anymarferol yn ariannol ar adeg pan mae cost ynni solar a gwynt yn gostwng yn gyflym.

“Ond nid economeg wael y cynllun hwn yn unig sydd wedi ei suddo. Mae’r ASau yn iawn gyda’u pryderon difrifol ynghylch y cynefinoedd o bwys rhyngwladol, rhywogaethau pysgod gwarchodedig a pherygl llifogydd cynyddol ar gyfer cymunedau yn ne ddwyrain Cymru.”