Elfyn Llwyd
Mae un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru wedi defnyddio cyfarfod brys Grwp Seneddol yr Undebau Cyfiawnder i rybuddio fod system cyfiawnder y DU yn wynebu argyfwng o ganlyniad i bolisiau trychinebus y Llywodraeth Glymblaid.

Roedd Elfyn Llwyd, sy’n cadeirio Grwp yr Undebau Cyfiawnder, yng nghwmni cynrychiolwyr Undeb PCS (Public and Commercial Services) Union; Napo (undeb y llysoedd teulu a’r gwasanaeth prawf); y POA (Prison Officers’ Association); a Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr.

Rhybuddiodd fod y system gyfiawnder mewn perygl o gael ei newid yn llwyr gyda thoriadau enfawr a miloedd o swyddi yn diflannu yn y blynyddoedd nesaf.

“Roedd y teimladau cryf a rannwyd yn y cyfarfod bore ’ma yn arwydd clir o’r gwrthwynebiad sylweddol sy’n bodoli i bolisiau trychinebus y Llywodraeth,” meddai Elfyn Llwyd, wrth siarad ar ôl y cyfarfod.

“Dylai cael mynediad i gyfiawnder fod yn hawl sylfaenol i bob dinesydd. Drwy roi pris ar gyfiawnder, bydd y weinyddiaeth hon yn gwneud difrod parhaol i system sydd yn aml yn gwarchod rhai o unigolion mwyaf bregus cymdeithas.

“Yn sgil preifateiddio’r gwasanaeth prawf, bydd cwmniau cwbl amhrofiadol megis G4S a Serco yn rheoli troseddwyr ac yn asesu risg.

“Bydd diogelwch y cyhoedd mewn perygl o ganlyniad i fwriad y Llywodraeth i wneud toriadau enfawr ac anghyfrifol, be bynnag fo’r gost yn yr hir-dymor.

“Yng Nghymru, mae cyfiawnder yn wynebu bygythiad neilltuol gan newidiadau i gymorth cyfreithiol – cynlluniau gwarthus fydd yn creu gwactod cymorth a chyngor, ac yn gorfodi pobl i gynrychioli eu hunain yn y llys.”

Datganoli materion Cyfiawnder

Mae Plaid Cymru wedi dadlau’n gyson y byddai system fwy effeithol ar waith pe bai cyfrifoldeb dros gyfiawnder Cymreig yn cael ei drosglwyddo o San Steffan i’r Senedd.

“Tra bod ASau Llafur yn hapus i adael cyfiawnder yn nwylo’r Toriaid yn hytrach na throsglwyddo grym i’w Llywodraeth Gymreig eu hunain, mae Plaid Cymru’n parhau i ymgyrchu dros system ble fo cyfiawnder yn hawl i bawb yn hytrach na braint i’r ychydig rai,” meddai Elfyn Llwyd wedyn.