Carwyn Jones
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ‘cynhadledd fawr’ i drafod dyfodol yr iaith ac mae’r Prif Weinidog wedi apelio ar bobol i gymryd rhan.

Fe fydd yna hefyd gyfres o ddigwyddiadau lleol yn arwain at y digwyddiad ei hun – Iaith Fyw: Y Gynhadledd Fawr – ar 4 Gorffennaf.

Mae un o’r rheiny wedi  ei gynnal eisoes ac fe fydd yr ail heddiw yn Eisteddfod yr Urdd pan fydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn lansio’r cynllun yn ffurfiol  yn Fforwm Ieuenctid Cenedlaethol yr Urdd.

Yn ôl Carwyn Jones, mae gan bawb ran wrth sicrhau ffyniant i’r Gymraeg ac mae wedi galw ar i bobol o bob cefndir ddefnyddio’r cyfle i roi eu barn.

Y drafodaeth

Fe fydd yr ymgynghori ymlaen llaw hefyd yn cynnwys fforwm ar-lein, gyda’r dystiolaeth o’r grwpiau ymchwil lleol yn cyfrannu at y drafodaeth yn y gynhadledd undydd.

Fe fydd y drafodaeth yn dilyn y chwe thema sydd yn strategaeth y Llywodraeth, Iaith Byw Iaith Fyw, ac yn ystyried rôl y Llywodraeth wrth geisio cynyddu defnydd o’r iaith.

Y chwech thema yw: teulu, pobl ifanc, cymunedau, gweithle, gwasanaethau a thechnoleg.

Fe fydd casgliadau’r grwpiau lleol a’r gynhadledd yn cael eu crynhoi mewn dogfen i’w hanfon at Gyngor Partneriaeth y Gymraeg sy’n cynghori’r Llywodraeth ar eu strategaeth iaith.

Sylwadau Carwyn Jones

Dyma rai o sylwadau’r Prif Weinidog wrth lansio’r cynllun.

“Rydyn ni am wybod sut mae pobol o bob gallu yn y Gymraeg yn defnyddio’r iaith ar hyn o bryd – a pha broblemau y maen nhw’n eu hwynebu o ran defnyddio’r iaith mewn gweithgareddau beunyddiol.

“Rydyn ni hefyd am ddeall pam nad yw rhai pobol eisiau defnyddio’r Gymraeg neu ddim yn teimlo’n hyderus yn ei defnyddio.

“Yn bwysicaf oll, rydyn ni am weld beth mae pobol yn credu y mae modd ei wneud i roi mwy o gyfleoedd iddyn nhw ddefnyddio’r iaith bob dydd.”

“Mae’r Gymraeg yn unigryw – a’n hiaith ni yw hi. Mae pobol ledled Cymru yn ymfalchïo ynddi, p’un a ydynt yn gallu’i siarad ai peidio, ac mae’n rhaid i ni wneud pob dim posibl i amddiffyn y rhan bwysig hon o’n hunaniaeth ddiwylliannol.

“Rwy’n gobeithio y bydd pobol yn cymryd y cyfle hwn i gyfrannu at y drafodaeth bwysig hon. Mae gan bawb rôl i’w chwarae o ran sicrhau bod yr iaith yn ffynnu.”