Gerald Williams yn derbyn ei MBE gan yr Arglwydd Raglaw. Llun: Nigel Hughes
Fe fydd Gerald Williams, nai’r bardd Hedd Wyn, yn cael ei anrhydeddu gyda’r MBE yn Nhrawsfynydd heddiw.

Mewn seremoni sy’n cael ei chynnal yn Yr Ysgwrn a’i llywio gan yr Arglwydd Raglaw, fe fydd yr anrhydedd yn cael ei gyflwyno i Gerald Williams am ei ymrwymiad i gadw drws yr Ysgwrn yn agored i ymwelwyr yn dilyn marwolaeth ei ewythr ym Mrwydr Passchendaele yn 1917.

Yn unol â dymuniad ei nain, mae Gerald Williams wedi bod yn croesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd i’r Ysgwrn ers bron i 60 mlynedd.

Lladdwyd Hedd Wyn, neu Ellis Humphrey Evans, chwe wythnos cyn iddo ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw am ei awdl Yr Arwr. Byth ers hynny mae’r Eisteddfod yno yn cael ei hadnabod fel Eisteddfod y Gadair Ddu.

Magwyd Gerald Williams gan ei nain ar aelwyd Yr Ysgwrn pan oedd ond yn bedair blwydd oed, yn dilyn marwolaeth ei fam.  Ers marwolaeth ei nain ac yna ei frawd Ellis, Gerald sydd wedi bod yn gyfrifol am groesawu ymwelwyr i’r Ysgwrn.

Ym mis Mawrth y llynedd, sicrhawyd dyfodol ‘Yr Ysgwrn’ a’i gynnwys i’r genedl pan gafodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gymorth ariannol i’w brynu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol.

Bwriad y pryniant oedd diogelu’r ‘Ysgwrn’, ei ddatblygu’n ganolfan fydd yn codi ymwybyddiaeth o fywyd Hedd Wyn, a chofnod o fywyd amaethyddol a diwylliannol Cymru ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

‘Cadw drws Yr Ysgwrn ar agor’

Yn siarad ar ddiwrnod ei anrhydeddu, dywedodd Gerald Williams MBE: “Pan wnes i addewid i fy Nain, bron i drigain mlynedd yn ôl, y buaswn i’n cadw drws Yr Ysgwrn ar agor, doedd gen i ddim syniad y byddai cymaint o bobl yn dod yma.

“Mae’n hi’n anrhydedd cael derbyn y fedal hon, yma yn Yr Ysgwrn, yng nghwmni fy nheulu ac mae’n gyfle gwych i atgoffa pobl o bwysigrwydd yr Ysgwrn a’r hyn mae’n ei gynrychioli.”

Bydd aelodau o deulu Gerald Williams a swyddogion Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn bresennol yn y seremoni.