Mae plant a phobol ifanc wedi dweud eu bod nhw’n dymuno cael y cyfle i wneud mwy o weithgareddau hamdden trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ystod Eisteddfod yr Urdd, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn gofyn i blant a phobol ifanc pa weithgareddau yr hoffen nhw gael y cyfle i’w gwneud trwy gyfrwng y Gymraeg pe bai’r adnoddau a’r cyfleusterau ar gael.

Gwersi nofio oedd un o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd ond yn ôl ymchwil y Gymdeithas, dydy hanner cynghorau Cymru ddim yn gallu cynnig y fath wersi trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwersi nofio

Dywedodd Gareth Williams o Sir y Fflint wrth y Gymdeithas ei fod e a’i deulu wedi cael anhawster wrth chwilio am wersi nofio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sir.

Mewn e-bost at y Gymdeithas, dywedodd: “Mae gen i dri o blant.

“Derbyniodd y ddau hynaf wersi nofio drwy gyfrwng y Saesneg mewn dosbarthiadau nofio sy’n cael eu trefnu yng nghanolfannau hamdden Sir y Fflint.

“Uniaith Saesneg oedd gwersi Aled, ond erbyn i Erin ddechrau gwersi roeddwn yn gwerthfawrogi bod yr athro ifanc yn defnyddio Cymraeg syml yn achlysurol.”

Ond dywedodd nad yw ei ferch, Siwan wedi dechrau cael gwersi nofio eto gan nad yw hi’n gallu cael gwersi yn Gymraeg.

“Oni bai am wersi clocsio wythnosol, adran yr Urdd a mynychu Ysgol Sul, mae pob gweithgaredd arall sydd ar gael i’r plant yma yn Yr Wyddgrug yn digwydd drwy gyfrwng y Saesneg.”

Protest

Mynnodd plant a phobol ifanc mewn protest ar faes yr Eisteddfod heddiw eu bod nhw’n cael yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn gweithgareddau hamdden.

Wrth ymateb i ystadegau’r Cyfrifiad ar ddechrau’r flwyddyn, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Beth sy’n glir wrth edrych ar ganlyniadau’r Cyfrifiad yw fod dyfodol yr iaith Gymraeg yn nwylo plant a phobol ifanc Cymru” .

Mae’r safonau iaith, sy’n cael eu llunio ar hyn o bryd, yn bwriadu gosod dyletswyddau ar gyrff a chwmnïau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.

Mewn cyfarfod diweddar gyda’r Gweinidog Leighton Andrews, galwodd y Gymdeithas ar i’r Llywodraeth greu hawliau sylfaenol megis hawliau i wersi nofio yn Gymraeg.

‘Briwsion’

Yn ystod y brotest, dywedodd llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith, Sian Howys: “Nid yw’n ddigon da i ni orfod dibynnu ar friwsion y Llywodraeth er mwyn sicrhau gwasanaethau sylfaenol fel gwasanaethau hamdden i’n plant trwy’r Gymraeg.

“Gallai Carwyn Jones warantu mynediad ein pobl ifanc, ac eraill, at wersi chwaraeon yn Gymraeg trwy ddatgan y bydd y safonau yn gwneud hynny’n hawl.

“Gallai e ddatgan hynny heddiw. Wedi’r cwbl, fe ddywedodd e mai yn nwylo pobl ifanc y gorwedda dyfodol y Gymraeg.”