Edwina Hart
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cronfa Datblygu Eiddo gwerth £10 miliwn er mwyn helpu prosiectau adeiladu bach.

Fe fydd y Gronfa’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i rheoli gan gorff Cyllid Cymru.

Cafodd ei lansio heddiw gan Weinidog yr Economi, Edwina Hart er mwyn mynd i’r afael ag anawsterau sy’n wynebu cwmniau bach a chanolig o ran ceisio am nawdd o’r ffynonellau arferol.

Gallai’r gronfa sicrhau nawdd o £30 miliwn i’r diwydiant dros gyfnod o bum mlynedd, gan ailgylchu’r elw, meddai.

Yn ei dro, gallai’r ailgylchu roi hwb o £19 miliwn i’r economi, gan greu hyd at 900 o swyddi, a diogelu 700 yn rhagor.

‘Ateb angen go iawn’

Dywedodd Edwina Hart: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu busnesau i dyfu ac i wrando arnyn nhw.

“Mae’r Gronfa’n ateb angen go iawn trwy helpu cwmnïau datblygu bach i gael y cyllid sydd ei angen arnyn nhw i allu talu am ddatblygiadau masnachol a phreswyl.

“Cafodd ei chreu i gau’r bwlch ariannu a welwyd gan Cyllid Cymru a bydd yn sbardun i ddechrau datblygiadau eiddo bach.

“Adeiladu yw un o’n sectorau allweddol ac mae ganddo’r potensial i gael effaith fawr ar yr economi.

“Mae gan y diwydiant gyfraniad pwysig at feithrin economi fywiog ac amgylchedd o’r radd flaenaf.

“Mae marchnad adeiladu dawel yn effeithio ar gymdeithas mewn sawl ffordd, gan gynnwys creu prinder tai fforddiadwy ar gyfer prynwyr tro cyntaf ac yn ei gwneud yn anodd i fusnesau gael gafael ar gartrefi newydd.

“Mae prosiectau adeiladu ar gyfer busnesau a dibenion cyhoeddus a phreswyl yn gallu rhoi hwb mawr i adfywiad lleol, gan wella amwynderau lleol yn ogystal â darparu llawer o swyddi.

“Mae’n bleser gen i sefydlu’r Gronfa hon fydd yn helpu i sbarduno’r farchnad trwy gefnogi llawer o brosiectau adeiladu na fyddai modd eu cynnal hebddi.”