Mi fydd Radio Beca, gorsaf radio newydd ar gyfer cymdogaethau Cymraeg Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro yn arbrofi ar faes Eisteddfod yr Urdd, sir Benfro’r wythnos nesaf.

Nid oes disgwyl i’r orsaf ddarlledu’n llawn tan drothwy’r flwyddyn newydd, ond, trwy gydol yr wythnos, mi fydd yr orsaf yn arbrofi trwy we ddarlledu o faes yr ŵyl ieuenctid.

Pan fydd yr orsaf yn darlledu’n llawn – oddi ar fastiau Blaenplwyf, Preseli a Charmel (Cross Hands) – ei bwriad hir dymor fydd i greu cyfrwng dynamig ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

Fe wnaeth OFCOM ddyfarnu trwydded darlledu i gynllun Radio Beca nôl Yn 2012, er mwyn darparu gwasanaeth radio Cymraeg newydd ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a gogledd Sir Benfro.

Mae’r drwydded wedi ei gwobrwyo i Radio Beca am gyfnod o bum mlynedd.