Colin Jackson
Fe fydd y cyn-athletwr Colin Jackson yn ymweld â Llangefni, Ynys Mon heno i lansio ras newydd i godi arian at ganser y brostad.

Ar Sul y Tadau eleni (Mehefin 16), bydd dynion a bechgyn dros 14 oed yn cymryd rhan yn y ras ‘Go Dad Run’ trwy dref Llangefni i godi arian at elusen canser Prostate Cancer UK.

Bydd y ras yn dechrau a gorffen ar dir Ysgol Uwchradd Llangefni, a bydd pawb sy’n cymryd rhan yn gwisgo trôns melyn dros eu siorts.

Ar y diwrnod, bydd ras fach amgen Bee Y’s i fenywod a phlant.

Yn ôl yr ystadegau, mae mwy na 10,000 o ddynion yn marw o ganser y brostad ym Mhrydain bob blwyddyn, sy’n cyfateb i fwy nag un bob awr.

Mae mwy na 250,000 o ddynion ym Mhrydain yn dioddef o’r afiechyd.

Nod y ras yw codi arian er mwyn gwella diagnosis, triniaeth a chefnogaeth i bobol sy’n dioddef o ganser y brostad.

Gwefan

Mae’r trefnwyr wedi lansio gwefan http://www.godadrun.co.uk/ er mwyn i bobol roi arian tuag at yr achos.

Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu ar y cyd â Menter Môn a’r Fenter Gymdeithasol, sydd wedi rhoi grant i’r trefnwyr.

Dywedodd un o’r trefnwyr, Nici Roberts, wrth Golwg360: “Mae Colin Jackson wedi colli dau wncl i ganser y brostad, ac mae gan ddynion Affro-Caribî siawns 30% yn uwch nag unrhyw un arall o gael y salwch.

“Ac mi gafodd fy nhad i ganser y brostad, ac mi ddaeth drwyddi ddwy flynedd yn ôl.

“Mae’n anghredadwy faint o bobol sy’n helpu i drefnu’r digwyddiad – mae gynnon ni gefnogaeth y Cyngor Sir, Cyngor y Dref, Môn FM a nifer o bobol eraill.”

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 5yh heddiw, ac yn yr wythnosau nesaf, fe fydd Colin Jackson yn cydweithio gyda Môn FM i greu hysbyseb radio ar gyfer y digwyddiad.