Bonnie Tyler
Wrth i ffans gystadleuaeth yr Eurovision edrych mlaen at y noson fawr yn Malmo, Sweden, heno ’ma, mae S4C wedi dymuno’n dda i’r gantores o Gymru, Bonnie Tyler, sy’n cynrychioli Prydain yn y gystadleuaeth eleni.

“Rydan ni’n dymuno pob lwc i Bonnie Tyler wrth iddi fynd am goron yr Eurovision,” meddai Comisiynydd rhaglenni adloniant S4C, Gaynor Davies.

Mae galw wedi bod ar i Gymru gael cystadlu ar ei liwt ei hun yn y gystadleuaeth hon, gydag enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru efallai yn camu ar lwyfan yr Eurovosion.

Cadarnhaodd Gaynor Davies wrth Golwg 360 nad yw rheolau’r Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU) yn caniatáu i Gymru gymryd rhan yn Eurovision ar hyn o bryd. “Ond rydan ni’n ymchwilio i bosibiliadau rhyngwladol eraill,” meddai.

“Rydan ni wastad yn awyddus i ganfod cyfleoedd ychwanegol a llwyfannau newydd i godi proffil cystadleuaeth Cân i Gymru a’r dalent anhygoel sy’n ennill y teitl bob blwyddyn. Mae’r enillydd eisoes yn cystadlu yn yr Ŵyl Ban Celtaidd sy’n gystadleuaeth arbennig iawn,” meddai.

Mae Bonnie Tyler, sy’n 61 oed ac yn dod o Sgiwen ger Castell Nedd yn wreiddiol, eisoes yn boblogaidd mewn nifer o wledydd ar draws Ewrop ond y gred ydi na fydd hi’n dod i’r brig heno. Y ffefryn i ennill ydi Emmelie de Forest o Ddenmarc.

Mae pol piniwn newydd wedi dangos fod Prydeinwyr yn eitha sinigaidd am y gystadleuaeth gyda 75% yn credu fod pleidleisio gwleidyddol yn cael effaith mawr ar y canlyniad.

Mae Bonnie Tyler wedi cael llawer o sylw ers iddi gyrraedd Malmo i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth. Cawn weld heno os bydd ei phoblogrwydd yn dwyn ffrwyth neu a fydd Prydain, unwaith eto, yn methu denu pleidleisiau’r gwylwyr fydd yn mwynhau’r gystadleuaeth rhyfeddol hon ar draws Ewrop heno.