Huw Lewis
Fe fydd Llywodraeth Cymru’n dechrau ymgynghori cyn hir ar fframwaith polisi i atal troseddau casineb yng Nghymru.
Fe ddaeth y cyhoeddiad wrth i’r Gweinidog Cydraddoldeb, Huw Lewis, gefnogi’r Diwrnod Rhyngwladol Yn Erbyn Homoffobia a Thrawsffobi – IDAHO – yn rhan o’r ymgyrch yn erbyn annhegwch at bobol hoyw a thrawsrywiol.
Mae’r Cynulliad hefyd yn cefnogi’r digwyddiad gyda chyfres o berfformiadau a thrwy chwifio baner yr enfys ar ei fastiau.
Datganiad y Gweinidog
“Dylai pawb yng Nghymru deimllo’u bod yn gallu gwneud cyfraniad ac y bydd hynny’n cael ei gydnabod a’i groesawu,” meddai Huw Lewis.
“Yn anffodus, mae gwahaniaethu annheg yn parhau, o fwlio homoffobaidd yn ein hysgolion i achosion annerbyniol o droseddau casineb.
“Mae gormod o bobol lesbaidd, howy, deurywiol a thrawsrywiol yn wynebu rhagfarn oherwydd eu tueddiadau rhywiol neu eu hunaniaeth o ran rhyw.”