Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews wedi cyhoeddi ei amserlen ar gyfer cyflwyno safonau’r Gymraeg.

Wrth gyhoeddi’r amserlen, dywedodd Leighton Andrews y bydd dogfen ymgynghori’n cael ei chyhoeddi er mwyn galluogi “Comisiynydd y Gymraeg i osod dyletswyddau ar awdurdodau lleol, awdurdodau’r parciau cenedlaethol, a Gweinidogion Cymru”.

Unwaith bydd y ddogfen ymgynghori’n gyflawn, mae disgwyl i’r cyfnod ymgynghori ddechrau ym mis Gorffennaf, ac fe fydd yn para tan fis Tachwedd.

Bydd y Gweinidog yn paratoi rheoliadau drafft yn seiliedig ar yr ymgynghoriad cyhoeddus erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ac fe fydd asesiad o effaith reoleiddiol y ddogfen yn cael ei gynnal yn y cyfnod hwnnw.

Mae hynny’n golygu y gallai’r rheoliadau ddod i rym erbyn mis Tachwedd 2014.

Wrth gyhoeddi’r amserlen, dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews: “Ar 25 Chwefror 2013, cyhoeddais y byddwn yn datblygu set ddiwygiedig o safonau mewn perthynas â’r Gymraeg ar gyfer ymgynghoriad.

“Dywedais fy mod yn amcangyfrif y byddai’r rheoliadau ar gyfer gwneud y set gyntaf o safonau, ynghyd â’r rheoliadau’n gwneud y safonau’n benodol gymwys i bersonau, yn cael eu gwneud erbyn diwedd 2014.

“Yn ystod y ddadl ar safonau mewn perthynas â’r Gymraeg a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Mawrth 2013, cytunais i gyhoeddi amserlen yn amlinellu’r camau i’w cymryd er mwyn gwneud y rheoliadau.

“Byddaf yn gwneud datganiad pellach i’r Aelodau ar ddechrau’r cyfnod ymgynghori.”

‘Diffyg gweledigaeth’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr Iaith Gymraeg Simon Thomas: “Rwy’n siomedig fod y Gweinidog wedi penderfynu cyfyngu safonau’r iaith Gymraeg i lywodraeth leol a chenedlaethol yn unig. Mae hyn yn dangos diffyg gweledigaeth.

“Diben y mesur hwn oedd sicrhau gwell darpariaeth gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg a gofalu bod y Gymraeg yn wir yn iaith gyfartal yma yng Nghymru. I hyn ddigwydd, rhaid i’r mesurau hyn ymestyn y tu hwnt i gyrff statudol y llywodraeth.

“Does dim rheswm, yn enwedig o ystyried yr amser a gymerwyd, pam na ellir paratoi safonau i’r holl gyrff oedd yn dod dan hen Ddeddf yr Iaith Gymraeg yn ogystal ag ystyried meysydd newydd megis telegyfathrebu.

“Trwy’r safonau yr ydym yn galluogi siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd a sicrhau eu hawliau. Nid yw cynigion y llywodraeth yn taro deuddeg.”

‘Angen ehangu sgôp y mesur’

Dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  “Pedair blynedd ers y bleidlais olaf yn y Cynulliad, wedi 5 ymgynghoriad, a 6 blynedd ers dechrau’r broses ddeddfu, bydd posibiliad o gael gwasanaethau Cymraeg gwell. Dyna’r cyhoeddiad heddiw.

“Erbyn hynny, heb amheuaeth, bydd pobl yn haeddu’r hyn sy’n wirioneddol bwysig, sef hawliau, ar lawr gwlad, i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Addawodd y Llywodraeth, yn gwbl glir, yn ei strategaeth iaith y byddan nhw’n gosod safonau ar y sectorau preifat a gwirfoddol yn ogystal â’r sector gyhoeddus. Felly, ble mae’r amserlen ar gyfer gosod safonau ar gwmnïau preifat a chyrff eraill? A fydd rhaid i bobl aros hyd yn oed mwy o amser?

“Yn ein cyfarfod diweddar gyda’r Gweinidog, pwysleision ni fod angen yr hawl i weithgareddau hamdden fel gwersi nofio i blant yn y Gymraeg, yr hawl i weithwyr ddysgu’r Gymraeg a’i defnyddio yn y gweithle, a’r hawl i gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith. Gallai safonau o’r fath, sy’n hawliau clir i bobl Cymru, helpu’r Llywodraeth yn fawr i gyflawni amcanion eu strategaeth iaith.”

Ychwanegodd: “Mae gwir angen ehangu sgôp y mesur er mwyn cynnwys yr holl sector preifat. Mae’n profiad diweddar ni gyda Marks and Spencers yn dangos y cawn addewidion gan gwmniau mewn cyfarfodydd, ond does dim sicrhad y byddan nhw’n cadw at yr addewidion hynny heb ddyletswydd statudol.”