Mark Bridger yn y llys
Bydd rhagor o dystiolaeth yn cael ei chyflwyno heddiw yn Llys y Goron Yr Wyddgrug am y delweddau anweddus gafodd eu darganfod ar gyfrifiadur Mark Bridger.
Mae Bridger, 47, wedi’i gyhuddo o gipio a lladd April Jones, ar ôl iddi ddiflannu o’i chartref ym Machynlleth fis Hydref y llynedd. Mae’n gwadu’r cyhuddiadau.
Mae’r erlyniad yn honni bod yna gymhelliad rhywiol i lofruddiaeth y ferch bump oed a bod delweddau pornograffig o blant wedi eu darganfod ar gyfrifiadur Bridger ynghyd a delweddau o blant a gafodd eu llofruddio.
Mae Mervyn Ray, o uned dechnegol Heddlu Dyfed Powys yn rhoi tystiolaeth bore ma. Mae wedi dweud bod sawl ffolder ar gyfrifiadur Bridger yn cynnwys delweddau o blant, rhai’n noeth, ac eraill yn ddelweddau rhywiol ar ffurf cartŵn.
Hyd yma, mae’r rheithgor wedi clywed manylion am y dystiolaeth fforensig gafodd ei darganfod yn ei gartref yng Ngheinws ger y dref.
Ddoe, roedd yr amddiffyniad wedi cwestiynu cywirdeb profion a gafodd eu cynnal ar olion gwaed a ddarganfuwyd mewn sawl lleoliad yng nghartref Bridger.
Yn ddiweddarach, dywedodd arbenigwr fforensig arall, Roderick Stewart, nad oedd profion ar gar Bridger yn gyson â’r honiadau ei fod e wedi taro’r ferch fach gyda’i Land Rover ac nad oedd “unrhyw dystiolaeth” bod y car wedi bod mewn gwrthdrawiad a phlentyn neu feic.
Clywodd y llys hefyd nad oedd yr heddlu wedi archwilio’r safle iawn lle digwyddodd y ddamwain honedig a hynny oherwydd camddealltwriaeth gan yr heddlu.
Mae Bridger yn honni iddo daro April drwy ddamwain gyda’i Land Rover a’i rhoi yn ei gar i geisio ei hadfywio. Ond mae’n dweud nad yw’n cofio beth wnaeth gyda’i chorff ar ôl hynny.
Mae’r achos yn parhau bore ma.