Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am gosbau llymach i Aelodau Cynulliad sy’n torri’r Cod Ymddygiad.

Mae’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi argymell y dylai’r Cynulliad gael yr hawl i wahardd ACau mewn rhai achosion.

Daw’r adroddiad yn dilyn  argymhelliad gan y Comisiynydd Safonau annibynnol yn galw ar y Cynulliad i adolygu ei weithdrefnau.

Tynnu hawliau
Mae’r Pwyllgor hefyd yn credu y dylai’r Cynulliad allu defnyddio ei bwerau i dynnu hawliau a breintiau oddi ar unrhyw AC sy’n torri’r Cod Ymddygiad.

Gallai’r hawliau a’r breintiau hyn gynnwys yr hawl i gael mynediad at adeiladau’r Cynulliad neu’r hawl i gynrychioli’r Cynulliad mewn digwyddiadau.

Byddai’r hyn yn ychwanegol i dynnu cyflog yr Aelod yn ôl, sef y gosb sy’n gysylltiedig â chael gwaharddiad.

Dywedodd y pwyllgor eu bod nhw wedi cael cefnogaeth eang ar gyfer y cynigion mewn ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda phob un o’r 60 Aelod Cynulliad.

‘Safonau uchel’

Dywedodd Mick Antoniw AC, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: “Mae argymhellion y Pwyllgor yn dangos ein hymrwymiad i greu Cynulliad Cenedlaethol lle mae’r Aelodau’n atebol am eu gweithredoedd os nad ydynt yn cyrraedd y safonau uchel sy’n ddisgwyliedig ohonynt gan eu hetholwyr.

“Rydym yn gobeithio gweld ein hargymhellion yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Busnes ac yn cael eu hymgorffori yn y Rheolau Sefydlog.”

Bydd adroddiad y Pwyllgor yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Busnes y Cynulliad, ac os cytunir ar yr argymhellion, bydd angen i ddwy ran o dair o’r Aelodau sy’n pleidleisio i gymeradwyo gwelliannau i’r Rheolau Sefydlog yn y Cyfarfod Llawn.