Pentrepella gan Kyffin Williams - un o'r gweithiau celf yn yr arwerthiant
Bydd dros 350 o eitemau o “gelf a llenyddiaeth bwysig” yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant heddiw i geisio mynd i’r afael a phroblemau ariannol Coleg Harlech.

Ddechrau’r flwyddyn fe gyhoeddwyd bod gan y Coleg ddyledion o £900,000 a bod Leighton Andrews yn bygwth atal eu cyllid.

Mewn datganiad ysgrifenedig ddiwedd mis Ebrill dywedodd Leighton Andrews AC, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, fod ganddo bryderon difrifol am “anawsterau ariannol” y Coleg a’i fod am “ddiogelu arian cyhoeddus.”

Trysorau

Mae’r Coleg, sy’n cynnal cyrsiau i oedolion, yn gwerthu’r trysorau – sy’n cynnwys paentiadau gan Kyffin Williams ac argraffiad cyntaf o Ellis Wynne: Gweledigaethau’r Bardd Cwsg – drwy gwmni arwerthwyr Wingetts yn Wrecsam ac yn fyw dros y we.

Mae’r darnau celf gan Kyffin Williams  sy’n cael eu gwerthu yn cynnwys Pentrepella sy’n werth rhwng £35,000-45,000.

Dywedodd llefarydd ar ran Coleg Harlech: “Rydym  mewn sefyllfa ariannol anodd ac felly, fel rhan o’r cynllun adfer ‘rydyn ni wedi penderfynu gwerthu rhai o’r asedau. Mae gobaith y bydd gwerthiant fel hyn yn ein helpu.”