Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i gorff dynes 74 oed gael ei ddarganfod yn dilyn tân mewn tŷ teras ym Mhenygroes, Gwynedd, ddoe.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tân yn Ffordd Llanllyfni ym Mhenygroes ychydig wedi tri brynhawn dydd Mawrth.

Cafodd cymydog, gwraig yn ei 40au, ei chludo i’r ysbyty am driniaeth am effeithiau anadlu mwg yn dilyn y digwyddiad.

Roedd hi wedi cysylltu â’r gwasanaeth tân ac achub pan glywodd larymau mwg yn canu yn yr eiddo oedd ar dân. Gadawodd y wraig yr ysbyty bore yma.

Dod o hyd i gorff

Aeth diffoddwyr tân i mewn i’r eiddo drwy ddefnyddio offer anadlu ac fe ddaethon nhw o hyd i gorff y ddynes yn y gegin.

Cafodd yr A487 rhwng Llanllyfni a Phenygroes ei chau am rai oriau yn dilyn y digwyddiad.

Does dim awgrym bod amgylchiadau amheus ynglŷn â’r tân ar hyn o bryd.