April Jones
Mae’r achos yn erbyn Mark Bridger sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio April Jones yn parhau yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw.

Heddiw, mae’r llys yn clywed gan arbenigwyr fforensig am y dystiolaeth gafodd ei darganfod yn ei gar Land Rover ac yn ei gartref.

Mae Bridger, 47, o Geinws ym Machynlleth yn gwadu cipio a llofruddio April Jones ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe ddiflannodd y ferch 5 oed wrth chwarae ger ei chartref ym Machynlleth ar 1 Hydref y llynedd.

Bore ma, mae Emma Howes, y gwyddonydd fforensig fu’n cynnal profion ar yr olion gwaed a ddarganfuwyd yng nghartref Bridger, yn rhoi tystiolaeth. Er nad oedd Emma Howes wedi mynd i’w gartref, hi oedd yn gyfrifol am ddadansoddi’r samplau gwaed, meddai.

Dywedodd Emma Howes bod y gwaed a ddarganfuwyd ar y carped yn ystafell fyw Bridger yn cyfateb i DNA April. Roedd olion gwaed o dan y carped ond nid ar y top yn awgrymu bod y carped wedi ei lanhau, meddai.

Ychwanegodd ei bod wedi gorfod defnyddio cemegyn, Blue Star, er mwyn canfod yr olion gwaed gan fod y carped yn lliw coch.

Mae’r erlyniad eisoes wedi dweud bod olion gwaed a darnau o esgyrn dynol wedi eu darganfod yn nhŷ Bridger.

Mae’r erlyniad yn honni bod cymhelliad rhywiol i ymosodiad Bridger ar April Jones a’i fod wedi ei chipio a’i llofruddio.

Mae Bridger yn honni iddo daro April drwy ddamwain gyda’i gar Land Rover a’i rhoi yn ei gar i geisio ei hadfywio. Ond mae’n dweud nad yw’n cofio beth wnaeth gyda’i chorff ar ôl hynny.

Mae’r achos yn parhau.