Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gynghorau i ohirio eu cynlluniau datblygu lleol nes y bydd canllawiau newydd Llywodraeth Cymru ynglŷn â  sut i asesu effaith cynllunio ar yr iaith Gymraeg yn cael eu cyhoeddi.

Dywedodd llefarydd cymunedau’r mudiad iaith, Toni Schiavone, y bydd aelodau’r Gymdeithas yn gofyn am gyfarfodydd gyda phrif weithredwyr, prif swyddogion cynllunio ac arweinwyr pob cyngor sir gan alw arnyn nhw i oedi’r cynlluniau.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eisoes wedi gohebu â holl gynghorau Cymru i ofyn am eu sylwadau ar eu ‘Maniffesto Byw’ – argymhellion y Gymdeithas i sicrhau twf yn y Gymraeg yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad –  ac wedi mynychu nifer o gyfarfodydd ymgynghorol ynglŷn â chynlluniau datblygu unedol.

Mae’r ymgyrchwyr wedi beirniadu cynghorau am fethu â rhoi ystyriaeth i effaith y datblygiadau ar y Gymraeg. Yn ôl Cymdeithas yr Iaith dim ond 16 asesiad o effaith datblygiad ar yr iaith, o bron i 50,000 o geisiadau cynllunio, sydd wedi cael eu cynnal dros y 2 flynedd ariannol ddiwethaf.

‘Nid yw’r Llywodraeth na’r cyngor o ddifrif’

Mae saith awdurdod cynllunio lleol eisoes wedi mabwysiadu eu cynlluniau yn ffurfiol ac mae  disgwyl i 10 awdurdod arall fabwysiadu eu cynlluniau yn ystod 2013.

Dywedodd Toni Schiavone: “Os yw canllawiau cynllunio’r Llywodraeth i fod yn ystyrlon mae’n rhaid iddyn nhw lywio gwaith cynghorau sydd yn gyfrifol am gynllunio. Fel arall, gwastraff papur yn unig fydd y rheolau.

“Mae nifer o awdurdodau eisoes wedi mabwysiadu, neu ar fin mabwysiadau, eu cynlluniau datblygu lleol. Wrth i amser symud yn ei flaen, felly, mae’r rheolau yn llai a llai perthnasol achos bydd y cynlluniau lleol wedi eu setlo. Mae pobl leol am fyw yn Gymraeg, ond, ar y funud, mae’n ymddangos nad yw’r Llywodraeth na’r cyngor o ddifrif am sicrhau y gallan nhw.”

‘Niweidiol’

Daeth ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar nodyn cynghorol technegol (TAN) 20 i ben ym mis Mehefin 2011, bron i ddwy flynedd yn ôl.

Ychwanegodd Toni Schiavone: “Mae’r holl oedi gyda’r canllawiau hyn yn rhyfedd, rhwystredig, ond yn bwysicach oll, niweidiol i’r Gymraeg. Mae dros ddwy flynedd ers i’r Llywodraeth ddechrau ymgynghoriad ar ddiweddaru’r canllawiau. Allfudo yw’r prif ffactor sydd wedi arwain at y cwymp diweddar yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae’n hanfodol felly bod y Llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i atal hynny.

“Mae’r oedi yn awgrymu bod y gwasanaeth sifil a’r gweinidogion yn llusgo eu traed ynghylch y mater. Mae’n debyg nad ydyn nhw’n gweld y Gymraeg fel mater digon pwysig i’w flaenoriaethu, er gwaethaf canlyniadau’r Cyfrifiad yn ddiweddar.”

Galwadau

Bydd aelodau’r mudiad yn galw ar gynghorau i:

  • Ohirio’r Cynllun Datblygu Unedol tan y cyhoeddir Nodyn Cynghorol Technegol 20 (TAN 20) i roi ystyriaeth deg i’r Gymraeg – ac yna addasu’r cynllun yng ngoleuni’r canllawiau statudol newydd;
  • Greu adroddiad pwnc ar gyflwr y Gymraeg yn lleol;
  • Fynnu eu bod yn llunio set o dargedau o ran cynyddu nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg, fesul cymuned, erbyn diwedd y degawd.