Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu adolygiad o’r effaith y mae gwariant ym mhob un o’i adrannau yn ei gael ar yr iaith Gymraeg yn dilyn cyfarfod gyda Chymdeithas yr Iaith.

Daw’r newydd wedi i gais rhyddid gwybodaeth gan y mudiad iaith ddangos bod llai na £4,000,  o gyllideb o bron i £17 miliwn, wedi ei wario ar addysg cyfrwng Cymraeg i oedolion yn y gymuned.

Un flwyddyn, chafodd yr  un geiniog ei gwario o’r gyllideb ar addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dangosodd ymchwil Cymdeithas yr Iaith hefyd mai dim ond 354  o 90,477 o brentisiaethau a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru oedd trwy gyfrwng y Gymraeg dros y tair blynedd diwethaf – a 0.3% yn unig o wariant ar Ddysgu Seiliedig ar Waith a ariannodd hyfforddiant cyfrwng Cymraeg.

Croeso gofalus

Ond mae ymgyrchwyr iaith wedi rhoi croeso gofalus i’r newyddion bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn trefnu adolygiad o effaith iaith ei gwariant.

Dywedodd Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy’r Gymdeithas: “Mae’n newyddion calonogol ac yn dangos bod ein hymgyrchu yn dechrau dwyn ffrwyth.

“Fodd bynnag, bydd dal angen i ni graffu ar y manylion a sicrhau bod patrwm gwariant y Llywodraeth yn newid, ar draws ei holl adrannau. Er enghraifft,  rydyn ni’n poeni na fydd yr adolygiad, o bosib, yn ddigon annibynnol.”

“Rydyn ni wedi gweld nifer o enghreifftiau lle mae patrwm gwariant y Llywodraeth yn tanseilio’r Gymraeg yn gyfan gwbl. Felly mae wir angen newid yn dilyn yr adolygiad hwn.”

Llythyr

Mewn llythyr diweddar at y Prif Weinidog, pwysleisiodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robin Farrar, bwysigrwydd yr adolygiad.

Yn ei lythyr, dywedodd Robin Farrar: “Er i ni ddisgwyl i’r ffigyrau amlygu problemau mawr ym mhatrwm gwariant hanesyddol y Llywodraeth, roedd yn gryn syndod gweld bod cyn lleied yn cael ei wario ar y rhaglenni cyfrwng Cymraeg hyn … yr ydym yn edrych ymlaen at glywed rhagor o fanylion am yr adolygiad gwariant hwnnw yn fuan… hoffwn erfyn arnoch i weithredu ar fyrder ar y mater hwn gan fod angen cwblhau adolygiad yn fuan er mwyn iddo lywio cyllideb nesaf y Llywodraeth.”