Y trafferthion ym Melfast y llynedd
Mae gwleidyddion Gogledd Iwerddon wedi cael gwahoddiad i drafodaethau preifat yn Nghaerdydd wythnos nesa.

Mae’r trafodaethau yn cael eu cynnal mewn ymgais newydd i leddfu tensiynau sectyddol ar strydoedd Belfast.

Mae sianel deledu UTV, sy’n darlledu yng Ngogledd Iwerddon, wedi dweud bod Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wedi cadarnhau y bydd y trafodaethau yn cael eu cynnal penwythnos nesaf.

Mae penaethiaid diogelwch yn poeni fwyfwy am y posibilrwydd o drais yn y misoedd i ddod wrth i orymdeithiau dadleuol, fel yr un sy’n cael ei threfnu gan yr Urdd Oren bob blwyddyn, gael eu cynnal.

Mae hyn yn dilyn yr helynt ym Melfast dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ar ôl penderfyniad  cyngor y ddinas i beidio cyhwfan Jac yr Undeb ar Neuadd y Ddinas am y rhan fwyaf o’r flwyddyn.

Unoliaethwyr heb benderfynu

Dywedodd llefarydd ar ran y Progressive Unionist Party, adain wleidyddol y grŵp parafilwrol, Corfflu Gwirfoddol Ulster (UVF), eu bod wedi cael eu gwahodd i fod yn bresennol ond bod dim penderfyniad wedi cael ei wneud eto.