Cynhelir yr ŵyl yng Nghastell Caerdydd
Er yr holl bryderon yn gynharach yn y flwyddyn, mae Menter Caerdydd wedi cadarnhau a chyhoeddi amserlen Gŵyl Tafwyl 2013.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd ar 15 Mehefin gyda mynediad, unwaith eto, yn rhad ac am ddim.

Yn gynharach eleni, collodd yr ŵyl Gymraeg ei nawdd gan y cyngor lleol. Rhoddodd Llywodraeth Cymru £20,000 i Tafwyl ar ôl i Gyngor Caerdydd ddweud bod yn rhaid iddyn nhw wneud toriadau gwariant.

Partneriaethau

Mae Menter Caerdydd wedi llwyddo i greu’r ŵyl eleni drwy weithio gyda 62 o bartneriaid a sicrhau nawdd gan 10 cwmni preifat gan gynnwys Asiantaeth Addysgu Bay Resourcing.

“Er gwaethaf y pryderon yn gynharach eleni, nid ydym wedi ein rhwystro,” meddai Sian Lewis, Prif Swyddog Menter Caerdydd.

“Drwy weithio’n agos gyda’n partneriaid ffyddlon, gan gynnwys y BBC, Canolfan Mileniwm Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, rydym wedi llwyddo i gyd-drefnu gŵyl sydd yn fwy ac yn well nag erioed, ac wythnos lawn o ddigwyddiadau amrywiol o gwmpas y brifddinas. ”

Gweithgareddau

Mae’r ŵyl wedi ei dargedu at gymuned Gymraeg, dysgwyr a di-Gymraeg y ddinas ac ymysg y prif ddigwyddiad eleni bydd perfformiad gan Geraint Jarman; sesiynau sgiliau syrcas a trapeze gyda’r cwmni syrcas cyfoes llwyddiannus, NoFit State; a sesiwn ar ddysgu’r Anthem Genedlaethol gyda rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman.

Bydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn cynnal sesiynau celf a chrefft  a bydd gweithdai drama a cholur theatrig gan Sherman Cymru, Theatr Genedlaethol a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Gŵyl unigryw

Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg:

“Mae Tafwyl yn ŵyl ddiwylliannol unigryw sydd wedi ehangu flwyddyn ar ôl blwyddyn ers ei lansio yn 2006 ac sydd yn amhrisiadwy o ran hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Am y rhesymau hyn neilltuais £20,000 o gyllid grant ar gyfer yr ŵyl eleni.

“Fel Llywodraeth rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod yr iaith yn iaith fyw sy’n cael ei defnyddio yn y gymuned. Mae sicrhau cyfleoedd i bobl ddefnyddio’u Cymraeg tu fas y dosbarth a’r gweithle mewn digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol fel hyn yn hanfodol i’w dyfodol.”

Mae rhagor o wybodaeth am yr ŵyl a’r rhaglen ar gael ar wefan Tafwyl – www.tafwyl.org.