Mae’r Swyddfa Gartref yn dweud eu bod yn trafod gyda theulu ditectif preifat o Gymru ynglŷn ag ymchwiliad newydd i’w farwolaeth fwy na chwarter canrif yn ôl.

Y disgwyl yw y bydd adolygiad annibynnol o lofruddiaeth Daniel Morgan o Lanfrechfa yn ardal Cwmbran yn arwain at alwadau am agor yr ymchwiliad eto.

Roedd wedi ei ladd gyda bwyell y tu allan i dafarn yn Sydenham yn 1987 ac, yn ôl ei deulu, roedd hynny pan oedd yn agos iawn at ddatgelu llygredd yn yr heddlu.

Ymchwiliadau

Mae tua £50m wedi cael ei wario ar ymholiadau ac ymchwiliadau ers hynny ac mae ei deulu yn parhau i frwydro am y gwir reswm pam y bu farw.

Er gwaethaf pump ymchwiliad gan yr heddlu, does neb wedi ei gael yn euog o’i lofruddiaeth.

Cafodd tri dyn eu cyhuddo o’i lofruddiaeth ond daeth yr achos i ben yn gynnar yn dilyn methiannau honedig gan yr heddlu ac erlynwyr.

Mae disgwyl cyhoeddiad gan y Swyddfa Gartref cyn bo hir.