Mae S4C wedi cyhoeddi enwau’r ddau awdur newydd sydd wedi ennill lle ar gynllun hyfforddi sy’n cael ei gynnal ar y cyd gyda It’s My Shout.

Fe fydd Ciron Gruffydd ac Elgan Rhys nawr yn cael cymorth i ddatblygu eu sgiliau sgriptio ac yn ysgrifennu ffilm fer yr un.

Fe fydd Ciron yn gweithio ar ffilm yn Senghennydd yn ardal Caerffili, ac Elgan yn gweithio ar ffilm arall yn Y Bala yng Ngwynedd. Bydd y ddwy ffilm, sy’n cael eu cyfarwyddo gan Mared Swain a Hefin Rees, yn cael eu darlledu ar S4C yn y dyfodol.

‘Cyfle gwych’

Mae Ciron yn 28 oed ac wedi gweithio fel awdur llaw rydd ers dwy flynedd. Mae hefyd wedi cael ei ddewis gan It’s My Shout i ddatblygu ffilm fer Saesneg gyda BBC Cymru Wales.

“Mae cael y cyfle yma i weithio ar ffilm fer o fewn y gymuned yn Senghennydd, a hithau’n ganmlwyddiant trychineb pwll glo mwya Prydain, yn fraint,” meddai.

“Ac mae gweithio efo S4C a’r BBC drwy It’s My Shout, yn gyfle gwych i fy natblygiad fel ’sgwennwr.”

‘Prosiect cyffrous’

Mae Elgan yn 21 oed, ac ar fin gorffen astudio cwrs tair blynedd Theatr a Drama yn yr Atrium, Prifysgol De Cymru yng Nghaerdydd ac mae’n falch o’r cyfle i weithio ar brosiect cyffrous yn syth ar ôl gadael y coleg.

“Mae’n fraint cael y cyfle yma i weithio ar brosiect sydd yn y maes dwi eisiau gweithio ynddo. Bydd yn gyfle i mi gael fy enw allan yno fel awdur ar gyfer teledu a theatr. Bydda i’n teithio yn ôl ag ymlaen i’r Bala yn yr wythnosau nesa i ymchwilio a chreu’r stori fer.

‘Buddsoddiad pwysig’

Yn ôl Pennaeth Partneriaethau S4C, Catrin Hughes Roberts, mae’r cynllun yn fuddsoddiad pwysig mewn talent newydd.

“Rydan ni’n falch iawn o’n partneriaeth gydag It’s My Shout,” meddai. “Maen nhw wedi llwyddo i ganfod dau unigolyn sydd â photensial mawr i lwyddo ym maes sgriptio ar gyfer y diwydiant teledu, a dwi’n dymuno pob lwc iddyn nhw wrth iddyn nhw ddechrau’r cynllun.”

Dywedodd Roger Burnell, Rheolwr Gyfarwyddwr It’s My Shout: “Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda a chefnogi datblygiad ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr newydd, drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn partneriaeth â S4C.

“Mae’r ddwy ffilm fer sy’n cael eu cynhyrchu yn y cynllun hwn yn rhan o gyfres ehangach o ffilmiau byrion MADE IN WALES gyda BBC Cymru Wales fel y prif ddarlledwr. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda S4C a BBC Cymru Wales ar y cynllun hwn, sy’n darparu llwyfan a chefnogaeth i’r talentau sy’n cymryd rhan.”