Mae’r Prifardd Meirion MacIntyre Huws wedi dwedu iddo gael ei gamddyfynnu wythnos diwethaf pan gyhoeddwyd  ei fod eisiau rhoi “cyllell” i eisteddfodau bach.

Dywedodd Meirion MacIntyre Huws, sy’n Swyddog Datblygu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, wrth Golwg360 heddiw ei fod wedi bod yn dyfynnu Gwilym Hughes, Llywydd Eisteddfod Mynytho, pan ddywedodd bod yn rhaid edrych ar destunau  eisteddfodau bach fel mae llawfeddyg yn edrych ar glaf.

Wrth siarad am restr testunau eisteddfodau bach yn benodol, dywedodd bod “rhaid bod yn ddewr, a mynd a’r gyllell a thynnu’r drwg” er mwyn cael cystadlaethau y bydd pobl yn cystadlu ynddyn nhw.

“Fe wnes i ddyfynnu Gwilym Hughes- fo wnaeth y gymhariaeth wrth edrych ar restr testunau eisteddfodau – a dyna oedd o’n ei feddwl,” meddai Meirion MacIntyre Huws heddiw.

“Ond roedd yr eitem newyddion yn awgrymu mod i wedi dweud hynny am eisteddfodau.”

Angen newid

Ond dywedodd hefyd bod yn rhaid i eisteddfodau bach newid ac edrych am atebion gan rai mwy llwyddiannus.

“Os fysa eisteddfod yn cael trafferth – does dim problem tynnu rhai cystadlaethau sydd ddim yn gweithio. Mae rhai eisteddfodau wedi tynnu rhai cystadlaethau allan a rhoi eraill yn eu lle nhw ac arbrofi. Ond mae hi’n cymryd blynyddoedd i daro’r balans cywir.”

Defnyddio’r we

Mae Meirion MacIntyre Huws hefyd yn credu bod modd i eisteddfodau wneud mwy o ddefnydd o’r we.

“Os oes dyn yn gwerthu moch neu fwji , mae bod ar y we yn fantais, hyd yn oed os ydi o’n gwerthu un bwji’r flwyddyn yn ychwanegol. Mae’n ddefnyddiol i bawb ac mae cannoedd os nad miloedd o restrau testunau yn cael eu llwytho oddi ar wefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru pob blwyddyn.

“Nid rhywbeth yn lle rhywbeth arall yw’r defnydd o’r we ond rhywbeth ychwanegol fel bod pobl yn Sir Benfro yn gallu gweld cystadlaethau a chystadlu yn eisteddfod Sir Fôn, er enghraifft.”