Leighton Andrews
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn am i’r Safonau Iaith newydd gynnwys hawliau pendant i bobol ddefnyddio’r Gymraeg.

Fe gafodd cynrychiolwyr gyfarfod gyda’r gweinidog sy’n gyfrifol am yr iaith, Leighton Andrews, ar ôl iddo wrthod y safonau oedd wedi’u cynnig gan Gomisiynydd y Gymraeg a chymryd y cyfrifoldeb o greu rhai newydd.

Maen nhw wedi rhybuddio’r Gweinidog fod tynged y Gymraeg yn ystod y blynyddoedd nesa’ yn ei ddwylo ef.

Cyflwyno rhestr

Roedd y rhestr o hawliau a gyflwynwyd i Leighton Andrews yn cynnwys yr hawl i dderbyn gofal iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg, i gael gwersi chwaraeon i blant a hawl i weithwyr ddysgu a gweithio yn Gymraeg.

Bydd y Gymdeithas yn cyfarfod â gweision sifil cyn i’r safonau gael eu cyhoeddi’n derfynol.

Mae’r Gymdeithas wedi mynegi pryder bod busnesau mawr wedi dwyn pwysau ar y Gweinidog i lastwreiddio’r safonau ond mae yntau wedi gwadu hynny.

‘Hawl o ddydd i ddydd’

Dywedodd llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith, Siân Howys: “Yr hyn sydd yn bwysig i ni yw hawliau pobol Cymru, ar lawr gwlad, i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd.

“Gallai safonau o’r fath, sy’n hawliau clir i bobol Cymru, helpu’r Llywodraeth yn fawr i gyflawni amcanion eu strategaeth iaith.

“Yn ei ddwylo ef mae un o’r penderfyniadau pwysicaf – penderfyniad a fydd yn llywio tynged y Gymraeg dros y pymtheg mlynedd nesaf a mwy.”