Fe fu cynnydd o 28 yn nifer yr achosion o’r frech goch yn ardaloedd  byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Powys a Hywel Dda ers dydd Mawrth.

Mae’n golygu bod cyfanswm o 1,039 bellach wedi’u heintio.

Daw’r cyhoeddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru er gwaethaf ymdrechion i frechu oddeutu 4,000 o blant gyda brechlyn MMR yn y mis diwethaf.

Mae’r achosion dros Gymru erbyn hyn wedi cyrraedd 1,170 ac mae 85 o bobl wedi cael triniaeth yn yr ysbyty oherwydd y frech goch.

Mae tua 33,000 wedi cael eu brechu i gyd ond rhybuddiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oedd digon o blant a phobl ifanc rhwng 10 ac 18 mlwydd oed wedi derbyn brechlyn MMR.